Fe wnaeth amddiffyn llofrudd oedd wedi llofruddio nifer o bobol achosi i gyfreithiwr ddioddef Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) gan arwain at chwalfa iechyd meddwl ddifrifol.

Trywanodd Peter Moore bedwar dyn i farwolaeth yn y gogledd 25 mlynedd yn ôl, mewn cyfres o lofruddiaethau erchyll oedd yn adleisio gweithredoedd Jack the Ripper yn Llundain ganrif ynghynt.

Mae Dylan Rhys Jones, y cyfreithiwr fu’n amddiffyn Peter Moore yn yr achosion llys, wedi ysgrifennu’r llyfr The Man in Black – Peter Moore – Wales’ Worst Serial Killer yn trafod y peryglon, y pwysau a’r effaith bersonol arno fo,

Yn ystod Rhagfyr 1995, derbyniodd y cyfreithiwr o Abergele, a oedd yn 30 oed ar y pryd, alwad ffôn yn gofyn iddo amddiffyn y perchennog sinemâu mewn achos llys.

“Fe gafodd effaith arna i”

Dioddefodd Dylan Rhys Jones o PTSD, chwalodd ei nerfau, a threuliodd o gyfnod mewn ward seiciatryddol yn Ysbyty Glan Clwyd wrth geisio ymdopi ag effeithiau’r pedair llofruddiaeth a gyflawnodd Moore rhwng Medi a Rhagfyr 1995.

Erbyn hyn, mae Dylan Rhys Jones wedi rhoi gorau i’w waith fel cyfreithiwr, ac nid yw’n cael ei aflonyddu gan y meddyliau tywyll bellach.

Er hynny, mae’n dal i gofio’r dyddiau duon.

“Rydyn ni i gyd, ac roeddwn innau yn sicr, yn meddwl ‘mod i’n rhyw fath o Superman ac y gallwn barhau i gynnal fy musnes fel arfer, ac na fyddai’r erchylltra’n cael unrhyw effaith o gwbl arna i,” meddai.

“Ond fe gafodd effaith arna i.

“Roeddwn i’n cael hunllefau am yr achos ac es i i deimlo’n isel a digalon iawn.

“Yr argraff gefais i oedd bod Moore wedi mwynhau’r hyn a wnaeth, roedd o’r farn ei fod wedi llwyddo yn ei waith a’i fod wedi diwallu ei anghenion dieflig mewn ffordd effeithiol.

“Roedd y weithred o ladd fel rhoi ‘cyllell trwy fenyn’ iddo, a phleser y lladd yn anfesuradwy.

“Roedd yr achos yn erchyll ac roedd rhaid i mi astudio pob agwedd ohono’n fanwl.”

Er mwyn amddiffyn Peter Moore, roedd rhaid i’r cyfreithiwr drwytho’i hun ym manylion y llofruddiaethau, ac roedd hyn yn cynnwys archwilio cannoedd o ffotograffau.

“Roeddwn i’n gallu gweld y lluniau yma yn fy mhen, a byddaf yn eu gweld am byth,” meddai.

“Pan fyddwn i’n cyrraedd adre yn hwyr y nos ac yn dod allan o’r car roeddwn i’n cael y teimlad fod Moore yno, yn rhedeg ata i o’r tu ôl ac yn barod i ‘nhrywanu.

“Mae’n deimlad real iawn, fel petai’n digwydd yr eiliad honno ac rydych chi’n rhewi yn yr unfan.”

“Gobeithio taw dyma’r bennod olaf”

“Rhwng popeth, aeth pethau’n drech na mi, ac yn y pen draw, bu’n rhaid i fy ffrind gorau, a oedd yn ddoctor, fy llusgo yn llythrennol i Ward Ablett, y ward seiciatryddol yn Ysbyty Glan Clwyd,” meddai.

“Roeddwn i ar chwâl, a doedd dim ffordd arall i ddelio â hyn.

“Doeddwn i erioed wedi trafod hyn gyda’r teulu. Doeddwn i ddim yn teimlo fod hynny’n deg.

“Doeddwn i ddim am iddyn nhw glywed am y pethau erchyll yma, felly rhoddais y cyfan dan glo.

“Mae mwy o ymwybyddiaeth erbyn hyn am salwch meddwl.

“Ugain mlynedd yn ôl roeddwn i’n teimlo petawn i wedi cyfaddef fy nheimladau, y byddwn i’n cael fy ngweld fel person gwan oedd ddim yn gallu ymdopi.

“Mae llysoedd barn yn eu hanfod yn llawn gwrthdaro. Dydych chi ddim am ddangos gwendid, rhaid ymddangos yn galed, ond does neb yn gallu parhau fel’na.”

Ysgrifennodd y llyfr yn y gobaith y bydd yn “rhan o’r broses o wella a dod i delerau ag achos Peter Moore”.

“Gobeithio taw dyma’r bennod olaf,” meddai.

“Rydw i’n mynd â’r ci am dro ar draeth Pensarn, lleoliad y llofruddiaeth olaf. Wrth droi am adre, rydw i’n teimlo ’mod i’n troi fy nghefn hefyd ar yr achos ei hun.”

Straen yn gyffredin ymysg cyfreithwyr

Mae nifer o gyfreithwyr yn profi’r un straen, a’r gyn-gyfreithwraig o Fryste, Leah Steele, a gysylltodd â Dylan Rhys Jones ar ôl darllen am ei broblemau.

Sefydlodd Leah Steele y cwmni ‘Searching for Serenity’ ar ôl dioddef o straen wrth weithio ar achosion o gam-drin plant, dibyniaeth ar gyffuriau a materion teuluol.

“Mae wedi bod o fudd i Dylan sgwennu am ei brofiadau, yn bendant, ac erbyn hyn mae pethau’n gwella ym myd y gyfraith a phroffesiynau eraill,” meddai.

Dywedodd Leah Steele fod cwmnïau mawr yn cymryd straen yn y gweithlu o ddifrif, ond “prin yw’r gefnogaeth o hyd o fewn cwmnïau llai.”

Ym mis Tachwedd 1996 cafodd Peter Moore ei ddedfrydu i garchar am oes, gyda’r argymhelliad na fyddai fyth yn cael ei ryddhau.

Erbyn hyn mae Dylan Rhys Jones yn darlithio ar y Gyfraith a Throseddeg, ac mae’r llyfr, a gafodd ei gyhoeddi gan y Lolfa, allan nawr.