Mae Heddlu’r Gogledd wedi enwi’r dyn fu farw yn dilyn ymosodiad difrifol yng Nghei Connah.

Cawson nhw eu galw i ddigwyddiad  am 5.03 neithiwr (nos Sadwrn, Mai 22), yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei drywanu.

Cafodd Dean Michael Bennett, 31, ei gludo i’r ysbyty yn Lerpwl, lle bu farw.

Mae dynes 46 oed, dyn 35 oed a merch 16 oed wedi’u harestio ar amheuaeth o’i lofruddio.

Mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw’n “gwneud popeth fedrwn ni i ddarganfod beth ddigwyddodd”, ac maen nhw’n apelio am wybodaeth.

Maen nhw’n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.