Mae un o weinidogion Llywodraeth Ffrainc wedi awgrymu y gallen nhw gyflwyno cyfyngiadau llymach ar deithwyr o wledydd Prydain nag o wledydd eraill o ganlyniad i amrywiolyn India Covid-19.
Cafodd y mater ei grybwyll gan y Gweinidog Tramor Jean-Yves Le Drian, sydd wedi awgrymu y gallai gwledydd Prydain wynebu cyfyngiadau unigryw.
Mae lle i gredu y byddai’r cyfyngiadau hynny’n llai llym na’r rhai ar gyfer teithwyr o India, ond yn fwy llym na’r rhai ar gyfer pobol o 15 o wledydd eraill.
Mae lle i gredu y bydd llai o gyfyngiadau hefyd ar deithwyr o wledydd yr Undeb Ewropeaidd.
Yn ôl Jean-Yves Le Drian, mae Llywodraeth Ffrainc yn monitro’r sefyllfa cyn gwneud penderfyniad terfynol.
Daw hyn ar ôl i arbenigwyr ddweud eu bod nhw’n disgwyl i gyfyngiadau Llywodraeth Prydain gael eu llacio ar Fehefin 21, sef y dyddiad a gafodd ei nodi’n wreiddiol.
O heddiw (dydd Sul, Mai 23), mae’r Almaen yn gofyn i bobol o wledydd Prydain fynd i gwarantîn am 14 diwrnod ar ôl cyrraedd y wlad.