Mae 21 o bobol fu’n cymryd rhan mewn ‘ultramarathon’ yn Tsieina wedi marw – ond mae’r trefnwyr yn dweud bod y 151 arall “yn ddiogel”.

Cafodd y digwyddiad ei gynnal mewn tywydd eithafol – o genllysg i law oer a gwyntoedd cryfion – yng ngogledd-orllewin y wlad, a hynny ar diroedd uchel.

Fe fu hyd at 700 o aelodau o dimau achub allan yn ystod y nos yn ceisio dod o hyd i bobol.

Yn ôl asiantaeth newyddion yn Tsieina, bu farw’r 21 o ganlyniad i boen corfforol a chwymp sydyn yn y tymheredd wrth redeg ar uchder o hyd at 3,000 metr dros bellter o 100km (62 milltir) yn ninas Baiyin yn nhalaith Gansu.

Roedd un o’r rhai fu farw’n rhedwr adnabyddus, Liang Jing.

Mae’r ras wedi’i chynnal bedair gwaith yn y gorffennol, ac fe gadwodd y rhedwyr at y llwybrau cywir, yn ôl un o’r cystadleuwyr oedd wedi goroesi’r amodau.

Ond mae’n dweud nad oedd y rhedwyr wedi gwisgo’n briodol ar gyfer y ras a bod y tymheredd yn golygu nad oedd y rhedwyr wedi cynhesu’n ddigon cynnar yn y ras.

Dywedodd fod disgwyl i’r rhedwyr, ar uchder o bron i 1,000 metr, redeg dros gerrig a thywod a bod ei fysedd wedi rhewi.

Mae’n dweud ei fod yn teimlo’n sâl wrth gwblhau’r ras.

Mae Maer dinas Baiyin a threfnydd y ras, Zhang Xuchen, wedi ymddiheuro yn ystod anerchiad teledu.