Mae Simon Brooks yn rhybuddio y gallai pobol sy’n ymddeol i Gymru ddisodli pobol sy’n prynu ail gartrefi pe na bai’r sefyllfa’n cael ei datrys yn y ffordd gywir.

Fe fu’n siarad â rhaglen Sunday Politics Wales y BBC ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod prisiau tai yng Nghymru wedi codi 11% ar gyfartaledd dros y flwyddyn ddiwethaf – sy’n uwch nag yn unman arall yng ngwledydd Prydain.

Ym Môn mae’r cynnydd mwyaf (16%), ac mae’n golygu bod prisiau tai, ar y cyfan, yn rhy uchel i bobol leol – er nad oedd y broblem gynddrwg ar ddechrau’r pandemig.

Yn ogystal ag ail gartrefi, mae diffyg stoc dai, y dreth stamp a phobol yn arbed arian yn ystod y pandemig er mwyn prynu eiddo hefyd wedi cyfrannu at y sefyllfa.

Er bod Cyngor Môn wedi codi tai cymdeithasol a rhoi premiwm ar ail gartrefi, maen nhw’n dweud bod rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r sefyllfa – barn mae Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ceidwadol yr ynys wedi’i hategu.

‘Problem leol nad yw’n effeithio ar bob rhan o Gymru’

Yn ôl Simon Brooks o Brifysgol Abertawe, sydd wedi llunio adroddiad yn ymateb i’r argyfwng, “problem leol nad yw’n effeithio ar bob rhan o Gymru” yw’r sefyllfa ail gartrefi.

“Dydy hi ddim yn effeithio cymoedd y de, er enghraifft,” meddai wrth raglen Sunday Politics Wales.

“Ond yn y rhan fwyaf o gymunedau lle mae’n cael effaith, mae’n cael effaith enfawr.

“Gall ail gartrefi fynd i fyny i hanner y stoc dai mewn rhai cymunedau, sy’n anghredadwy, felly yr hyn dw i’n ei ddweud yn fy adroddiad yw fod rhaid i ni gael atebion polisi penodol sydd, yn nhermau ariannol, yn golygu trethi ac efallai elfen o gynllunio.

“Ond mae angen i ni gymryd camau yn y cymunedau hynny, heb amheuaeth, neu fel arall rwy’n ofni na fyddan nhw’n llefydd mor ddichonadwy i fyw ymhen deg neu ugain mlynedd.”

Cyfrifoldeb y cynghorau lleol?

Yn ôl Simon Brooks, mae rhai cynghorau lleol yn teimlo “nerfusrwydd” wrth ddefnyddio’r mesurau sydd ganddyn nhw wrth law i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

Ond mae’n dweud bod rhai perchnogion ail gartrefi hefyd yn ceisio manteisio ar y mesurau er mwyn osgoi talu trethi.

“Rwy’n credu bod elfen o nerfusrwydd yn rhai cynghorau sir a gafodd eu gorfodi i [ddefnyddio mesurau], ac roedd rhai perchnogion tai haf yn ceisio cofrestru eu busnesau, yn ei hanfod, ar gyfer trethi busnes a’r awgrym oedd y gall fod un neu ddau yn chwarae’r system.

“Rwy’n awgrymu yn fy adroddiad, mewn gwirionedd, fod y Llywodraeth yn edrych ar ffyrdd o drwyddedu llety gwyliau fel nad yw’n digwydd mor hawdd ag y gwnaeth yn y gorffennol.”

Ond mae’n cydnabod fod rhai cynghorau sir, serch hynny, yn ceisio mynd i’r afael â’r sefyllfa.

“A bod yn deg â rhai o’r cynghorau, fel Gwynedd er enghraifft sydd newydd godi eu premiwm treth cyngor i’r uchafswm cyfreithiol o 200%, lle mae’r broblem ar ei gwaethaf maen nhw’n chwarae eu rhan,” meddai.

Canlyniad ‘anfwriadol’ cael gwared ar ail gartrefi

Serch hynny, mae’n cydnabod y gallai ceisio mynd i’r afael ag ail gartrefi, yn ogystal â sawl ffactor arall gan gynnwys Brexit, arwain at gynnydd yn nifer y bobol sy’n ymddeol i gymunedau yng Nghymru.

“Pe bai’r farchnad wyliau yng ngogledd Cymru, sy’n enfawr, yn diflannu, yna gallech chi gael cynnydd sylweddol iawn yn y farchnad ymddeoliad i’r cymunedau hynny,” meddai.

“Felly yr hyn dw i’n dadlau yn fy adroddiad, nid ein bod ni’n cael gwared ar y farchnad tai haf – does gen i ddim problem efo pobol yn cael rhywle i ddod pan fyddan nhw eisiau gwyliau – ond ein bod ni’n anelu at sefydlogrwydd.

“Yr anhawster sydd efo ni ar hyn o bryd ydi bod Covid yn gyrru pobol allan o’r dinasoedd oherwydd maen nhw eisiau dianc o’r fan honno a chael ychydig o seibiant ac mae Brexit, wrth gwrs, yn ei gwneud hi’n anodd iawn i brynu ail gartref ar y cyfandir.

“Y cyfuniad hwn, ar y cyd â’r ‘boom’ mawr ym mhrisiau tai rydyn ni wedi’i weld dros y 12 mis diwetha’, sy’n achosi pwysau go iawn ar y stoc dai mewn rhai cymunedau yng ngogledd-orllewin Cymru.

“Rwy’n meddwl, pan gewch chi sefyllfa lle mae’n gwbl amlwg fod y gymuned leol yn cael ei phrisio allan, ei bod hi’n briodol wedyn eich bod chi’n defnyddio mecanweithiau go iawn rydyn ni’n eu defnyddio drwy’r amser mewn polisi cyhoeddus – trethu, gwrthanogaeth efallai, a’r defnydd o reioliadau cynllunio wedyn.”

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae adeiladu tai yn flaenoriaeth, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw’n ymwybodol ac yn deall y pryderon am ail gartrefi.

Rhybudd y bydd sefyllfa ail gartrefi Cymru’n gwaethygu

Mabon ap Gwynfor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ar frys