Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn dweud bod brechlynnau Covid-19 Pfizer ac AstraZeneca Rhydychen yn gwarchod pobol rhag amrywiolion.

Ond mae astudiaeth yn dangos bod pa mor effeithiol yw’r brechlynnau’n amrywio’n sylweddol o un brechlyn i’r llall ac o un amrywiolyn i’r llall.

Mae dau ddos o frechlyn Pfizer yn 88% effeithiol yn erbyn amrywiolyn India, ac mae brechlynnau Pfizer ac AstraZeneca Rhydychen bron yr un mor effeithiol yn erbyn amrywiolyn Caint.

Ond maen nhw ond yn 33% effeithiol dair wythnos ar ôl y dos cyntaf.

Yn ôl Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, mae’r astudiaeth yn “torri tir newydd”, ac mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn disgwyl lefelau uwch o effeithiolrwydd wrth atal pobol rhag gorfod mynd i’r ysbyty a marwolaethau.

Cafodd yr astudiaeth ei chynnal rhwng Ebrill 5 a Mai 16.

Y canlyniadau

Yn ôl yr astudiaeth, roedd brechlyn Pfizer yn 88% effeithiol yn erbyn amrywiolyn India a 93% yn erbyn amrywiolyn Caint ar ôl yr ail ddos.

Roedd brechlyn AstraZeneca yn 60% effeithiol yn erbyn amrywiolyn India a 66% yn erbyn amrywiolyn Caint yn ystod yr un cyfnod.

Roedd y ddau frechlyn yn 33% effeithiol yn erbyn amrywiolyn India a 50% yn erbyn amrywiolyn Caint ar ôl tair wythnos.

Mae data Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn awgrymu bod o leiaf 2,889 o achosion o amrywiolyn India yn Lloegr rhwng Chwefror 1 a Mai 18 – arweiniodd 104 ohonyn nhw at ymweliad â’r ysbyty, 31 at bobol yn cael eu derbyn dros nos a chwe marwolaeth.

Amrywiolyn Caint yw’r mwyaf cyffredin yn Lloegr, gyda 132,082 o achosion yn ystod yr un cyfnod – mae 1,569 wedi marw o ganlyniad iddo, tra bod 2,011 o achosion wedi arwain at aros yn yr ysbyty dros nos a 5,238 o ymweliadau ag adran frys.

Dadansoddiad

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Lloegr, mae’r ffaith fod ail ddos brechlyn AstraZeneca Rhydychen wedi cael ei gyflwyno’n hwyrach nag ail ddos Pfizer wedi arwain at y gwahaniaeth ym mha mor effeithiol ydyn nhw.

Mae’r data hefyd yn dangos ei bod yn cymryd ychydig yn hirach i frechlyn AstraZeneca Rhydychen i fod yn gwbl effeithiol.

Does dim digon o ddata i ddangos gwir effaith y brechlynnau yn erbyn amrywiolyn India, ond bydd rhagor o ddata ar gael dros yr wythnosau nesaf.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Lloegr, mae hi’n rhy gynnar i ddweud ar hyn o bryd sut fydd y data’n effeithio ar benderfyniadau’n ymwneud â llacio pellach ar y cyfyngiadau.