Mae Nick Thomas-Symonds, Aelod Seneddol Llafur Torfaen a llefarydd materion cartref ei blaid, yn dweud bod angen i’r BBC “adfer ymddiriedaeth” yn dilyn helynt cyfweliad Martin Bashir â’r Dywysoges Diana yn 1995.

Fe ddaeth i’r amlwg fod y newyddiadurwr wedi defnyddio dulliau amheus er mwyn sicrhau’r cyfweliad ar gyfer rhaglen Panorama y Gorfforaeth.

Ond mae’n dweud nad oedd e erioed “eisiau niweidio” y Dywysoges ac mae’n dweud nad yw’n credu eu bod nhw wedi ei niweidio hi.

Daw’r sylwadau wrth i’r Arglwydd Dyson gyhoeddi adroddiad damniol am y rhaglen, gan ddweud bod “ymddygiad twyllodrus” wedi cael ei ddefnyddio yn ystod y broses o drefnu’r cyfweliad – gan gynnwys ffugio dogfennau.

Yn ôl Martin Bashir yn y Sunday Times, doedd y Dywysoges ddim yn anhapus ynghylch y cyfweliad ac mae’n dweud eu bod nhw’n dal yn ffrindiau wedyn a’i bod hi wedi ymweld â’i wraig pan gafodd eu trydydd plentyn ei geni.

“Roedd popeth wnaethon ni yn nhermau’r cyfweliad fel roedd hi ei eisiau, o fod eisiau rhoi gwybod i’r palas i’r darlledu, i’r cynnwys… ro’n i a fy nheulu’n ei charu hi.”

Mae e wedi ymddiheuro wrth ei meibion William a Harry, ond mae’n gwadu’r honiad fod y cyfweliad wedi cyfrannu at ei theimladau o fod yn ynysig ac o baranoia.

‘Cwestiynau eang iawn am foeseg’

Yn ôl Nick Thomas-Symonds, mae angen i’r BBC ddangos na fyddan nhw’n ailadrodd yr un camgymeriadau eto.

“Yn ei hanfod, mae angen i’r BBC ddangos nawr na allai’r hyn ddigwyddodd gyda chyfweliad Martin Bashir ddigwydd eto, sef caffael cyfweliad trwy dwyll,” meddai.

“Rydyn ni wedi gweld yr effaith gafodd hynny ar y teulu brenhinol, rydyn ni wedi clywed y tywysogion William a Harry yn siarad yn emosiynol iawn am yr effaith gafodd hynny.

“Yn gwbl ddealladwy, mae hynny wedi codi cwestiynau eang iawn am foeseg ac am sut mae modd atal hynny rhag digwydd eto.

“Mae cwestiwn penodol hefyd, o ran sut y daeth y BBC i gyflogi Mr Bashir unwaith eto yn 2016 a sut ddigwyddodd hynny.

“Ond edrychwch, mae’r BBC yn gwneud rhaglenni gwych, mae gan y BBC enw gwych o hyd o amgylch y byd, ond nawr mae’n rhaid adfer ymddiriedaeth a phrofi i bobol na allai’r hyn ddigwyddodd ddigwydd eto.”