Mae Dominic Cummings, cyn-brif ymynghorydd Boris Johnson, yn dweud mai bwriad gwreiddiol Llywodraeth Prydain oedd adeiladu imiwnedd torfol drwy adael i Covid-19 ledaenu drwy’r gymdeithas.
Dywed mai gadael i’r feirws ledaenu erbyn mis Medi oedd y cynllun pan ddaeth y feirws i’r amlwg am y tro cyntaf fis Mawrth y llynedd.
Ond ar Twitter, mae’n dweud bod y llywodraeth wedi cefnu ar y cynllun hwnnw ar ôl cael rhybudd am ganlyniadau “catastroffig” y cynllun.
Daw sylwadau Dominic Cummings wrth iddo fe baratoi i annerch pwyllgor seneddol ddydd Mercher (Mai 26), wrth iddyn nhw ymchwilio i ymateb y llywodraeth i’r pandemig.
Yn dilyn ei ymadawiad, gall y llywodraeth ddisgwyl cryn dipyn o feirniadaeth ac mae e eisoes yn dweud na fyddai cyfnodau clo wedi bod yn angenrheidiol pe bai’r “paratoadau cywir wedi’u gwneud a phobol alluog wrth y llyw”.
Mae e wedi wfftio sylwadau Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, yn wfftio’i sylwadau yntau ac mae’n feirniadol o’r cyfryngau am dderbyn y ffaith fod y llywodraeth wedi gwadu mai imiwnedd torfol oedd y bwriad.
‘Dryswch’
Yn ystod y pandemig, fe fu Syr Patrick Vallance, prif ymgynghorydd gwyddonol y llywodraeth, yn dweud y byddai’r feirws yn dychwelyd wrth lacio’r cyfyngiadau pe baen nhw’n ceisio’n “galed iawn, iawn” i’w atal.
Dywedodd mai’r bwriad, yn hytrach, oedd “adeiladu rhyw fath o imiwnedd torfol” fel bod gan fwy o bobol y gallu i’w wrthsefyll a bod ei ymlediad yn cael ei arafu.
Ond ar Twitter, mae Dominic Cummings yn dweud bod “cymaint o ddryswch” wedi bod.
“Pe baen ni wedi cael y paratoadau cywir a phobol alluog wrth y llyw, bydden ni fwy na thebyg wedi osgoi cyfnod clo 1, ‘yn bendant’ dim angen am gyfnodau clo 2 a 3,” meddai.
“O ystyried fod y cynllun yn AWOL/trychineb a bod penderfyniadau ofnadwy wedi oedi popeth, daeth cyfnod clo 1 yn angenrheidiol.”