Mae Mabon ap Gwynfor, llefarydd Tai a Chynllunio Plaid Cymru yn y Senedd, yn rhybuddio y bydd sefyllfa ail gartrefi Cymru’n gwaethygu, gan alw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ar frys i ddatrys yr argyfwng.

Yng Ngwynedd, mae oddeutu 40 o’r stoc dai flynyddol yn cael eu prynu fel ail gartrefi, gan wthio prisiau tai i fyny’n sylweddol.

Yn ôl Mabon ap Gwynfor, bydd mwy o bobol ifanc yn cael eu gorfodi i adael eu cymunedau oni bai bod Llywodraeth Cymru’n ymyrryd er mwyn datrys y sefyllfa.

Yn ogystal, mae’n dweud bod y sefyllfa’n rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau lleol yn ystod cyfnodau brig, ac yn creu trefi a phentrefi gwag yn ystod misoedd y gaeaf.

Mae’n galw ar Julie James, y Gweinidog Tai, i weithredu ac i gynnig “tryloywder a manylion” ynghylch eu cynlluniau i ddatrys yr “argyfwng”.

‘Ymyrryd â’r brys mwyaf’

“Mae sefyllfa’r ail gartref mewn cymunedau ledled Cymru wedi cyrraedd argyfwng. Dyma pam rydw i’n galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd â’r brys mwyaf,” meddai Mabon ap Gwynfor.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi addo gweithredu ar ail gartrefi cyn, yn ystod ac ar ôl yr etholiad – mae angen tryloywder a manylion nawr ar beth fydd hyn.

“Os bydd y llywodraeth yn parhau i oedi a peidio gweithredu, mae bygythiad y bydd yr argyfwng yn gadael yn ei sgil genhedlaeth goll o bobol ifanc sy’n cael eu gorfodi i adael eu milltir sgwâr oherwydd eu bod yn cael eu prisio allan o’r ardal lle cawson nhw eu geni a’u magu.

“Mae Plaid Cymru eisiau gweld ymyriadau uniongyrchol i liniaru’r argyfwng, megis newidiadau i gyfreithiau cynllunio i ganiatáu i gynghorau osod cap ar nifer yr ail gartrefi, cau’r bwlch sy’n caniatáu i berchnogion ail tai gofrestru eu heiddo fel “busnesau” er mwyn osgoi talu premiwm treth y cyngor, a chyflwyno rheoliadau i dreblu’r tâl Treth Trafodiad Tir ar brynu ail eiddo.

“Comisiynodd y llywodraeth Dr Simon Brooks i ymchwilio i’r mater a gwneud argymhellion. Mae angen i’r Llywodraeth ddod o hyd i ffordd o weithredu rhai neu’r holl argymhellion hyn ar frys.

“Nid yw hyn wedi’i gyfyngu i ychydig o gymunedau anghysbell bell i ffwrdd. Mae’r argyfwng hwn yn cael sgil-effaith ar bob cymuned, ac felly mae o bwysigrwydd cenedlaethol.

“Mae’n ddyled arnom i’r bobl ifanc yn y cymunedau hyn i ddatrys yr argyfwng hwn a chaniatáu iddynt aros yn yr ardal y maent yn ei galw’n gartref.”