Mae cyfreithiwr Derek Chauvin, y cyn-blismon a gafwyd yn euog o lofruddio George Floyd yn Minneapolis, wedi gwneud cais am achos llys newydd, yn ôl dogfen a gafodd ei chyflwyno ddoe (dydd Mawrth, Mai 4).

Cafwyd Chauvin, sy’n 45 oed, yn euog fis diwethaf o lofruddiaeth anfwriadol o’r ail radd, llofruddiaeth o’r drydedd radd, a dynladdiad o’r ail radd.

Gwelodd y llys dystiolaeth fod Chauvin wedi pwyso ei ben-glin ar wddf George Floyd am naw munud a 29 eiliad wrth iddo fethu anadlu, a stopio symud.

Fe wnaeth y cyfreithiwr Eric Nelson nodi sawl rheswm dros wneud cais am achos llys newydd.

Dywedodd fod y barnwr, Peter Cahill, wedi camddefnyddio ei hawl i farnu yn y llys, a mynd yn groes i hawliau Chauvin i gael achos teg pan wnaeth e wrthod cais Eric Nelson i symud yr achos i sir arall yn sgil y cyhoeddusrwydd cyn yr achos.

Ychwanegodd fod y barnwr wedi camddefnyddio ei hawl i farnu ymhellach pan wnaeth e wrthod cais cynharach ar gyfer achos llys newydd oherwydd y cyhoeddusrwydd yn ystod yr achos.

Dadleuodd Eric Nelson ar y pryd fod y cyhoeddusrwydd yn peryglu’r egwyddor o achos teg.

Fe wnaeth e hefyd godi pryderon fod Peter Cahill wedi gwrthod encilio’r rheithgor, a gwrthod eu rhybuddio nhw rhag defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.

Yn ogystal, nododd fod Peter Cahill wedi gwrthod caniatáu i ddyn, a oedd gyda George Floyd ar yr adeg y cafodd ei arestio, roi tystiolaeth.

Gofynnodd Eric Nelson i’r barnwr amau dilysrwydd y dyfarniad ar y sail fod y rheithgor wedi camymddwyn, wedi teimlo pwysau, a / neu wedi methu â chadw at gyfarwyddiadau, er nad oedd y ddogfen yn cynnwys manylion am yr honiadau.

Doedd y cais ddim yn cyfeirio at adroddiadau diweddar fod un o’r rheithgor wedi cymryd rhan mewn gorymdaith er cof am Martin Luther King yn Washington DC ar Awst 28.

Mae Brandon Mitchell wedi amddiffyn ei weithredoedd, gan ddweud mai pwrpas y digwyddiad oedd coffáu’r orymdaith a gafodd ei chynnal yn Washington ym 1963, ac nid protestio ynghylch marwolaeth George Floyd.

Fe wnaeth brawd a chwaer George Floyd, a pherthnasau i eraill sydd wedi cael eu saethu gan yr heddlu, gyfarch y dorf yn Washington haf diwethaf.

Dydy Eric Nelson ddim wedi dychwelyd gyda neges yn rhoi mwy o fanylion am ei honiad fod y rheithgor wedi camymddwyn.

George Floyd: “Mae’r pethau yma wedi digwydd yng Nghymru hefyd”

Cadi Dafydd

Natalie Jones yn dweud bod Cyngor Hil Cymru’n croesawu’r euogfarn yn erbyn Derek Chauvin, sydd wedi’i gael yn euog o lofruddio George Floyd