Mae pôl newydd yn darogan y gallai’r SNP fod chwe sedd yn brin o fwyafrif yn Holyrood ar ôl yr etholiad ddydd Iau (Mai 6).
Cafodd yr arolwg ei gynnal gan Savanta ComRes ar ran The Scotsman.
Mae’n darogan y gallai plaid lywodraeth Nicola Sturgeon ennill 42% o’r bleidlais etholaethol a 34 o’r bleidlais ranbarthol.
Byddai hyn yn cyfateb i 59 o aelodau seneddol, pedwar yn llai na’r cyfanswm yn 2016 – ond mae angen 65 er mwyn sicrhau mwyafrif.
Fodd bynnag, mae disgwyl i’r Blaid Werdd gael naw aelod seneddol – tri yn fwy na’r tro diwethaf, gan ennill 9% o’r bleidlais ranbarthol.
Mae hyn yn newyddion da i’r rhai sydd o blaid annibyniaeth i’r Alban, gyda’r Blaid Werdd hefyd yn cefnogi nod yr SNP.
Yn ôl yr arolwg, byddai’r Ceidwadwyr yn cael 30 aelod, un yn llai na 2016, gan ennill 25% o’r bleidlais etholaethol a 23% o’r bleidlais ranbarthol.
Byddai Llafur yn ennill 26 o seddi, dwy yn fwy na’r tro diwethaf, gan ennill 22% o’r bleidlais etholaethol ac 19% o’r bleidlais ranbarthol.
Byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill 8% o’r bleidlais etholaethol a 6% o’r bleidlais ranbarthol, gan sicrhau pum aelod seneddol, yr un nifer â’r tro diwethaf yn 2016.
Fyddai gan Alba, plaid newydd Alex Salmond, yr un aelod seneddol.
Cafodd y pôl ei gynnal ymhlith 1,001 o bobol dros 18 oed yn yr Alban rhwng Ebrill 30 a Mai 4.
Annibyniaeth
O ran mater annibyniaeth, 50-50% yw’r gefnogaeth ar draws y wlad erbyn hyn, yn ôl yr arolwg – 50% yn llwyr yn erbyn pe bai refferendwm yfory, tra bod 42% yn gadarn o blaid ac 8% yn ansicr ond yn cael eu cynnwys ymhlith y rhai sydd o blaid.
O eithrio’r rhai ansicr, roedd 54% yn erbyn a dim ond 46% o blaid – gwahaniaeth o 1% ers y refferendwm yn 2014, pan oedd 55% yn erbyn a 45% o blaid.