Mae pôl piniwn BMG Research ar ran The Herald yn darogan llwyddiant i’r SNP yn Holyrood.

Maen nhw’n disgwyl i blaid Nicola Sturgeon ennill cyfanswm o 68 o seddi, gydag Alba, plaid newydd Alex Salmond, yn cipio dwy.

Mae disgwyl i’r Blaid Werdd ennill naw sedd, a byddai hynny’n golygu y byddai 79 allan o 129 o aelodau o blaid annibyniaeth.

Yn ôl BMG, “does dim amheuaeth” mai’r SNP fydd yn ennill yr etholiad, ond mae maint eu mwyafrif “yn y fantol”.

Casgliadau eraill

Cafodd 1,023 o bobol dros 16 oed eu holi rhwng Ebrill 27-30.

Yr awgrym yw y bydd yr SNP yn ennill 49% o’r bleidlais mewn etholaethau, Llafur 21%, y Ceidwadwyr 19% a’r Democratiaid Rhyddfrydol 9%.

O ran y rhanbarthau, mae disgwyl i’r SNP ennill 37% o’r bleidlais, y Ceidwadwyr 22%, Llafur 17%, y Democratiaid Rhyddfrydol 8%, y Blaid Werdd 9%, Alba 4% a Reform UK 1%.

Mewn pôl blaenorol ar ran The Herald rhwng Mawrth 16-19, roedd disgwyl i’r SNP ennill 66 o seddi, y Ceidwadwyr 27, Llafur 20, a’r Blaid Werdd a’r Democratiaid Rhyddfrydol wyth yr un.

Pôl arall

Yn y cyfamser, mae pôl arall gan ComRes yn awgrymu bod 34% o bleidleiswyr yn credu bod yr SNP wedi llwyddo ym maes addysg, tra bod 39% yn teimlo nad ydyn nhw wedi llwyddo.

Roedd y bobol a gafodd eu holi hefyd yn teimlo bod yr SNP wedi perfformio’n wael wrth fynd i’r afael â throseddau, Brexit a thai.

Ond roedden nhw’n fodlon â pherfformiad y llywodraeth ar y cyfan.

Cafodd 1,001 o bobol dros 16 oed eu holi rhwng Ebrill 23-27.