Mae Adam Price a Mark Drakeford wedi bod yn amlinellu eu gweledigaeth ar gyfer cyfnod nesa’r Senedd wrth siarad ar raglen Sophy Ridge on Sunday ar Sky News.

Tra bod arweinydd Plaid Cymru’n llygadu “canlyniad hanesyddol”, mae Mark Drakeford am weld llywodraeth “adeiladol” mewn grym yn y Senedd nesaf.

Yn ôl Adam Price, dydy Plaid Cymru “ddim yn barod i dderbyn unrhyw bosibilrwydd arall ond cynnydd sylweddol mewn cefnogaeth – nid yn unig i’r mudiad annibyniaeth ond i Blaid Cymru hefyd”.

Dywed fod y blaid yn wynebu’r posibilrwydd o “ganlyniad hanesyddol” pe bai pobol ifanc yn bwrw eu pleidlais yn eu heidiau.

“Dyna’r wobr dw i’n ei llygadu, y wobr honno, mae pob rhan o’m hegni’n canolbwyntio ar hynny,” meddai.

Annibyniaeth

Wrth wrthod trafod clymbleidio, dywedodd Adam Price y bu cynnydd sylweddol yn y gefnogaeth i annibyniaeth.

“Yn wir, yn ôl rhai egwyddorion pwysig, mae hyd yn oed y rhan fwyaf o bleidleiswyr Llafur yn cefnogi annibyniaeth,” meddai.

“Mae’r gefnogaeth i annibyniaeth yng Nghymru erbyn hyn yn uwch nag yr oedd yn yr Alban ddeng mlynedd yn ôl ac, wrth gwrs, rai blynyddoedd wedyn, daethon nhw o fewn 5% i ennill refferendwm annibyniaeth.”

Dywed mai “momentwm yw popeth”, a bod y momentwm “gyda’r mudiad annibyniaeth”.

Clymbleidio

Yn y cyfamser, dywed Mark Drakeford ei fod e am weld llywodraeth “adeiladol” pe bai’n rhaid clymbleidio yn y llywodraeth nesaf.

Cyfeiriodd at Kirsty Williams, y Democrat Rhyddfrydol sydd wedi bod yn Ysgrifennydd Addysg, a’r ffaith fod yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi bod yn Ddirprwy Weinidog annibynnol fel rhan o’r llywodraeth.

“Rydyn ni bob amser wedi gweithio ar draws linellau pleidiol, lle gall pleidiau adeiladol eraill gytuno ar raglen lywodraeth,” meddai.

“Dyna’r ffordd dw i wedi mynd o’i chwmpas hi erioed, does gen i ddim diddordeb mewn ‘ffics’ gwleidyddol.

“Os oes angen i ni gydweithio â phleidiau erail, gadewch i ni weld a allwn ni gael rhaglen adeiladol ar gyfer cenedl adeiladol.”

Ailadrodd llwyddiant

Yn ôl Mark Drakeford, byddai ailadrodd canlyniad 2016 yn “ganlyniad gwych” i Lafur yng Nghymru.

Dywed nad yw’r Ceidwadwyr “yn credu yng Nghymru”, ond yn “credu mewn rhoi Cymru’n ôl i San Steffan”.

Mae’n dweud nad yw Plaid Cymru’n “credu yn y Deyrnas Unedig” ac y bydden nhw’n “ein torri ni i ffwrdd oddi wrth ein ffrindiau neu berthnasau neu gydweithwyr mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig”.

Mae’n mynnu mai “dim ond y Blaid Lafur sy’n credu mewn Cymru gref, mewn Deyrnas Unedig lwyddiannus”.

Andrew RT Davies yn beirniadu

Yn y cyfamser, mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi lladd ar Blaid Cymru a Llafur am eu hagwedd o blaid Ewrop.

Fe wnaeth e ladd ar y ffordd mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi ymateb i’r pandemig Covid-19.

“Gadewch i ni beidio ag anghofio fod gan Gymru’r gyfradd farwolaethau uchaf o unrhyw ra o’r Deyrnas Unedig,” meddai.

“Gadewch i ni gofio hefyd, trwy nerth undod y Deyrnas Unedig, mae £6bn o arian wedi dod i Gymru i gefnogi’r frwydr yn erbyn yr argyfwng Covid-19.

“Peidiwch ag anghofio y byddai Plaid a Llafur wedi ein cael ni’n rhan o’r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd a fyddai wedi ein cael ni’n rhan o’r rhaglen frechu Ewropeaid, yn hytrach na rhaglen frechu lwyddiannus yn y Deyrnas Unedig sy’n agor yr economi i fyny.

“Ar y cwestiynau mawr i gyd, maen nhw wedi gwneud y dewisiadau anghywir.”