Mae oddeutu 90% o unoliaethwyr yn ofni y gallai uno Iwerddon arwain at drais yng Ngogledd Iwerddon unwaith eto.

Daw’r pôl piniwn ar achlysur canmlwyddiant creu Gogledd Iwerddon, ac mae’n awgrymu bod pobol y naill ochr a’r llall i’r ffin yn ofni uno Iwerddon.

Cafodd mwy na 2,000 o bobol yn Iwerddon a Gogledd Iwerddon eu holi mewn pôl gan Kantar ar ran Sunday Life a Sunday Independent a oedden nhw’n credu y byddai heddwch yn cael ei beryglu pe bai Iwerddon yn unedig.

Dywedodd 68% o bobol yng Ngogledd Iwerddon a 62% o bobol yn Iwerddon eu bod nhw’n ofni canlyniadau uno Iwerddon.

Ond roedd 24% o bobol yng Ngogledd Iwerddon ac 17% o bobol yn Iwerddon, yn anghytuno.

Cafodd 1,500 o bobol dros 18 oed eu holi yn Iwerddon, a 750 o bobol yng Ngogledd Iwerddon.

Canlyniadau’r pôl

Ar fater Brexit, roedd 58% o bobol yng Ngogledd Iwerddon a 57% yn Iwerddon o’r farn y gallai Brexit gyflymu’r broses o uno Iwerddon.

Roedd 31% o bobol yng Ngogledd Iwerddon a 38% o bobol yn Iwerddon o’r farn y byddai mwyafrif o 50%+1 yn ddigon i orfodi pleidlais ar uno Iwerddon mewn unrhyw bleidlais ar ffiniau yn y dyfodol.

Roedd 38% o bobol yng Ngogledd Iwerddon a 36% yn Iwerddon yn teimlo y byddai angen mwyafrif o ddau draean er mwyn cynnal pleidlais.

Roedd 36% o bobol yn teimlo y byddai angen mwyafrif o 70% yn y fath bôl.