Mae’r llysoedd yn ninas Delhi Newydd yn India yn dweud y byddan nhw’n cosbi’r llywodraeth pe na baen nhw’n sicrhau cyflenwadau ocsigen sy’n angenrheidiol er mwyn brwydro’r argyfwng Covid-19.
Roedd gostyngiad bach mewn achosion erbyn heddiw (dydd Sul, Mai 2).
392,488 yw’r ffigwr diweddaraf ledled India, i lawr o 401,993 24 awr yn ôl.
Mae 3,689 yn rhagor o bobol wedi marw yn ystod y cyfnod hwn, sy’n mynd â’r ffigwr ers dechrau’r pandemig i 215,542.
Ond mae lle i gredu nad yw’r ffigurau’n gwbl gywir a bod llawer iawn mwy o bobol wedi’u heintio ac wedi marw.
Ymateb y llywodraeth
Mae’r llywodraeth wedi bod yn defnyddio pob math o drafnidiaeth er mwyn sicrhau bod tanceri ocsigen yn cyrraedd yr ardaloedd lle mae’r sefyllfa ar ei gwaethaf a lle mae ysbytai dan gryn bwysau.
Bu farw 12 o bobol ar beiriannau ocsigen yn Delhi Newydd ddoe (dydd Sadwrn, Mai 1), a hynny ar ôl i ysbytai redeg allan o gyflenwadau am 80 munud.
Fe wnaeth y Times of India adrodd am 16 yn rhagor o farwolaethau mewn ysbytai yn Andhra Pradesh a chwech yn rhagor yn Gurgaon oherwydd diffyg cyflenwadau ocsigen.
Daw’r ymateb gan awdurdodau ysbytai ar ôl i gyfyngiadau clo India gael eu hymestyn am wythnos arall.
“Digon yw digon,” meddai Uchel Lys Delhi Newydd, sy’n dweud y byddai’n barod i gosbi swyddogion llywodraeth yn sgil y diffyg cyflenwadau ocsigen.
“Allwn ni ddim cael pobol yn marw,” meddai’r barnwyr Vipin Sanghi a Rekha Patil, sy’n dweud eu bod nhw’n barod i ddechrau camau dirmyg llys.
Bu farw 412 o bobol yn Delhi Newydd dros y 24 awr diwethaf – y nifer fwyaf ers dechrau’r pandemig.
Mae’r fyddin eisoes wedi agor eu hysbytai i drigolion cyffredin, ac mae llywodraeth India wedi rhoi pwerau ariannol arbennig i’r fyddin gael sefydlu cwarantîn ac ysbytai ac i brynu nwyddau hanfodol.
Mae’r fyddin hefyd wedi galw 600 o gyn-feddygon sydd wedi ymddeol er mwyn iddyn nhw ddychwelyd i’r gwaith, ac mae’r llynges hefyd wedi darparu 200 o gynorthwywyr iechyd ar gyfer ysbytai.
Brechlynnau
Mae India bellach yn dweud y gall pawb dros 18 oed dderbyn brechlyn.
Ers mis Ionawr, mae 10% o drigolion y wlad wedi derbyn un dôs, ond dim ond tua 1.5% sydd wedi cael dau ddôs.
Mae dros 156m dos wedi’u rhoi yn y wlad erbyn hyn.
Mae taleithiau eisoes yn dweud nad oes digon i bawb, ac mae rhai yn cael trafferth brechu pawb dros 45 oed, hyd yn oed.
Mae’r Unol Daleithiau, Prydain, yr Almaen a sawl llywodraeth arall wedi bod yn anfon cyflenwadau i India er mwyn helpu i geisio datrys y sefyllfa.