Mae tîm troseddau cefn gwlad Heddlu’r Gogledd yn dweud eu bod nhw’n dilyn “sawl trywydd” wrth iddyn nhw ymchwilio i achos o ddifrodi platfform ger nyth gweilch y pysgod ger Llyn Brenig rhwng siroedd Conwy a Dinbych.

Yn ôl yr heddlu, aeth fandaliaid ati i lifo drwy blatfform oedd yn dal y nyth gan ddefnyddio llif gadwyn.

Daw hyn er bod yr adar yn cael eu gwarchod gan ddeddf gwlad.

Roedd un o’r gweilch newydd ddodwy am y tro cyntaf y noson gynt.

Mae Prosiect Gweilch y Brenig yn bartneriaeth gyda Dŵr Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Mae’r safle nythu yn Brenig yn gartref i ddwy fenyw ac un gwryw.

Sylwadau’r heddlu

“Mor drist,” meddai’r heddlu mewn neges ar Twitter.

“Rydym yn gweithio’n galed iawn efo sawl trywydd i’r ymchwiliad er mwyn dal y troseddw(y)r.

“Mae cymhelliant i droseddau bywyd gwyllt bob amser, ac rydym yn credu bod gan y person wnaeth hyn gymhelliant cryf i waredu’r ardal o weilch ac yn enwedig y llyn.

“Mae ymholiadau cychwynnol yn dangos bod posibilrwydd fod y troseddw(y)r wedi cyrraedd ar gwch i lifo’r platfform â llif gadwyn.”