Mae’r BBC wedi gwrthod dweud wrth golwg360 a fu unrhyw gwynion am bennod o’r rhaglen gomedi panel Have I Got News For You nos Wener (Ebrill 30).

Roedd y bennod wedi cael ei lambastio ar ôl i’r panelwyr wneud ‘jôcs’ yn honni nad oedd hi‘n bosib ynganu’r Gymraeg.

Disgrifiodd y gwylwyr yr ymgais i wneud hwyl am yr ymgyrch i ddefnyddio’r enw Cymraeg yr Wyddfa yn unig yn lle “Snowdon” yn “wan a diflas,” “diog” a “sarhaus”.

Ychwanegodd Delyth Jewell AoS fod y rhaglen wedi bod yn “hollol gywilyddus”

Yn ystod y rhaglen ar BBC 1 neithiwr, gofynnodd y gwestai gwadd Alexander Armstrong: “Beth arall allai fydd yn newid ei enw cyn bo hir?”

“O! Mount Snowdon,” meddai capten y tîm Paul Merton.

“Ie. Mae’n mynd i gael ei alw’n ‘Swrw-by,” meddai’r newyddiadurwr Kirsty Wark, gan wneud synau rhyfedd a wynebau rhyfeddach.

“Mae cynnig wedi’i gyflwyno gan gynghorydd mai dim ond yn ôl ei enw Cymraeg y dylid cyfeirio ato,” meddai Armstrong, gan gyfeirio at yr enw ar y sgrîn a pheidio ceisio ei ynganu.

“Cefais fy ngeni yng Nghymru,” meddai’r capten arall, Ian Hislop. “Wnes i ddim treulio’n hir iawn yno. Yr Wyddfa.”

Disgusting these white lefties mean we can’t dead name a mountain now,” medd y comediwr Joe Lycett. “Sorry, I’m trying to add a bit of BBC . . .”

Hiliaeth,” atebodd Paul Merton.

Dywedodd Armstrong wedyn: “Efallai mai dim ond wrth ei enw Cymraeg fydd mynydd uchaf Cymru yn cael ei alw cyn bo hir. Dwi’n credu mai’r ynganiad cywir – dwi’n mynd i roi cynnig arno, yw “Snowdon”.

“Mae hyn yn rhan o duedd i adennill enwau Cymraeg traddodiadol sydd wedi’u Seisnigeiddio. Er enghraifft, dywedodd y Cynghorydd John Pughe Roberts y dylai Hellfire Pass gael ei adnabod yn fwy cywir fel Bull-head Groes (Bwlch y Groes). Neu hyd yn oed yn fwy cywir, yr A363.”

Beirniadwyd y rhaglen ar-lein gyda gwylwyr yn ei ddisgrifio fel “amharchus iawn” ac yn “sarhaus”.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas: “Beth am ddangos yr un parch i’r Gymraeg ag y byddech chi’n ei wneud unrhyw iaith arall?

Dywedodd Duncan Brodie fod yr ymgais i ddifrio’r Gymraeg wedi bod yn “wan ac yn ddiflas.”

Dywedodd yr Athro Amanda Rogers: “Mae gen i synnwyr digrifwch ond roedd pennod heno o Have I Got News For You yn amharchus ac yn sarhaus iawn i Gymry.”

Ymateb y BBC

“Dydyn ni ddim yn cyhoeddi ffigurau cwynion dros y penwythnos,” meddai llefarydd ar ran y BBC wrth golwg360 yn eu hymateb i gais am sylw.