Mae cyn-ysgrifennydd cabinet yr SNP yn galw ar Nicola Sturgeon i roi “ystyriaeth ddifrifol” i glymbleidio â phleidiau eraill o blaid annibyniaeth i’r Alban er mwyn dwyn pwysau ar Boris Johnson, prif weinidog Prydain, i drafod mater annibyniaeth.

Mae Alex Neil, y cyn-Ysgrifennydd Iechyd, yn pwysleisio bod rhaid canolbwyntio ar fynd i’r afael â Covid-19 am y tro, ond nad oes “rheswm pam na ddylen ni hefyd fod yn mynd ar ôl ein gofynion cyfansoddiadol ar yr un pryd”.

Roedd Alex Neil yn weinidog yn llywodraeth Nicola Sturgeon a’i rhagflaenydd Alex Salmond, sydd bellach wedi sefydlu plaid Alba i greu “uwchfwyafrif” tros annibyniaeth i’r Alban.

Ond mae Nicola Sturgeon yn mynnu na fydd hi’n cydweithio ag Alba, ac mae Alex Neil a Gil Paterson, aelod seneddol arall yr SNP sy’n camu o’r neilltu, yn galw arni i ailfeddwl a galw am drafodethau pe bai mwyafrif o aelodau seneddol yr Alban o blaid annibyniaeth wedi’r etholiad.

“Dydyn ni ddim yn gofyn i Nicola gymeradwyo cynnig nad yw hi wedi’i weld eto, ond yn syml iawn, i ystyried cefnogi’r egwyddor y dylai’r senedd newydd roi ystyriaeth ddifrifol i gynnig Alba i fynnu agor trafodaethau ar unwaith ar annibyniaeth gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig,” meddai Gil Paterson.

“Tra bod rhaid i ni barhau i ymdrin â’r materion brys yn ymwneud â’r pandemig coronafeirws, does dim rheswm pam na ddylen ni fod yn mynd ar ôl ein gofynion cyfansoddiadol ar yr un pryd,” meddai Alex Neil.

“Er mwyn adfer yn llwyr yn economaidd o’r pandemig, bydd angen arnom yr offerynnau na all ddim ond annibyniaeth eu rhoi i ni er mwyn gwneud hynny’n llwyddiannus.”