Fyddai Cymru ddim wedi cael unrhyw frechlynnau Covid-19 oni bai am gymorth y Deyrnas Unedig, yn ôl aelod seneddol Brycheiniog a Maesyfed.

Roedd Fay Jones, yr aelod seneddol Ceidwadol, yn ymateb i drafodaeth am ddyfodol y Deyrnas Unedig ac annibyniaeth i Gymru ar raglen Andrew Marr, lle’r oedd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn westai.

Dywedodd ei bod hi’n “casáu’r ffordd y gwnaeth #Marr eirio ei gwestiwn i Adam Price”.

“Gofynnodd e am ‘annibyniaeth oddi wrth Loegr’,” meddai.

“Nid yw hyn am Loegr.

“Byddai gwleidyddion ymwahanol yn dinistrio’r Deyrnas Unedig – a hebddi, fydden ni yng Nghymru ddim wedi cael yr un brechlyn na’r un bunt o gymorth coronafeirws”.