Mae gêm bêl-droed Manchester United yn erbyn Lerpwl yn Old Trafford wedi cael ei gohirio ar ôl i gannoedd o brotestwyr gael mynediad i’r stadiwm a’r cae.

Maen nhw wedi bod yn protestio yn erbyn perchnogion y clwb.

Fe ddigwyddodd hyn cyn y gêm yn erbyn Lerpwl heddiw (dydd Sul, Mai 2).

Maen nhw wedi bod yn dangos eu gwrthwynebiad i’r teulu Glazer a’u cynlluniau i ymuno â’r Uwch Gynghrair Ewropeaidd (European Super League) – cystadleuaeth newydd sbon y mae timau Uwch Gynghrair Lloegr wedi tynnu’n ôl ohoni yn sgil cryn wrthwynebiad y cefnogwyr.

Roedd nifer fawr o bobol y tu allan i’r stadiwm yn protestio hefyd.

Roedd disgwyl i brotest gael ei chynnal y tu allan i’r stadiwm am 2 o’r gloch, gyda chefnogwyr yn ymgasglu o leiaf awr ymlaen llaw.

Mae lle i gredu bod y rhai aeth i mewn i’r stadiwm wedi gwneud hynny drwy dwnnel Munich ar ôl gwthio bariau i lawr, er i swyddogion diogelwch geisio eu hatal nhw.

Rhedodd nifer o gefnogwyr allan o’r stadiwm am 2.20yp.

Dydy hi ddim yn glir a fydd y digwyddiad yn golygu na fydd y gêm yn gallu dechrau am 4.30yp.

Gallai Manchester City ennill tlws yr Uwch Gynghrair pe bai Lerpwl yn ennill.

Y datblygiadau diweddaraf

Yn dilyn y digwyddiad, mae’r awdurdodau pêl-droed yn cynnal cyfarfod i drafod yr hyn sydd wedi digwydd.

Roedd y stadiwm ynghau am gyfnod hir cyn amser y gic gyntaf, ac mae Sky Sports News yn adrodd fod y dyfarnwr wedi cael ei atal rhag mynd i mewn i’r stadiwm.

Mae adroddiadau bod staff yn Old Trafford wedi archwilio’r stadiwm yn dilyn y brotest, a bod peth difrod i’r cae.

Mae un o’r protestwyr wedi dweud wrth Press Association fod y brotest “wedi mynd yn well na’r disgwyl”.

Yn ôl Gary Neville, cyn-amddiffynnwr Manchester United sydd bellach yn sylwebydd gyda Sky Sports, mae “cryn anghydfod” ar y gweill rhwng y clwb a’r cefnogwyr.

“Yn syml iawn, maen nhw’n dweud ’digon yw digon’,” meddai.

Mae’n dweud bod y teulu Glazer “wedi bod yn wydn ac yn ystyfnig ers nifer o flynyddoedd”, a’u bod nhw’n cael trafferth buddsoddi arian yn y clwb, bod y stadiwm “yn rhydu ac yn pydru” ac nad yw’r cae ymarfer “ymhlith y pum gorau yn y wlad hon”.

Dydy’r clwb ddim wedi cyrraedd cyn-derfynol Cynghrair y Pencampwyr ers degawd nac wedi ennill yr Uwch Gynghrair ers wyth mlynedd, meddai.

Mae’n dweud bod y cefnogwyr o’r farn fod “eu hamser wedi dod i ben” yn berchnogion ar y clwb ac mai’r peth “anrhydeddus” i’w wneud fyddai gwerthu’r clwb.