Mae Geraint Thomas yn dweud ei fod e’n “hapus iawn” ar ôl ennill ras feics y Tour de Romandie, wrth i Remi Cavagna ennill y ras yn erbyn y cloc yn Freiburg yn y Swistir.

Ddiwrnod ar ôl i wrthdrawiad 50m o’r llinell derfyn yn y mynyddoedd i Thyon ei atal rhag cipio’r crys melyn, daeth buddugoliaeth gynta’r Cymro ers iddo fe ennill y Tour de France yn 2018.

Enillodd Cavagna y cymal mewn 21 munud 54 eiliad, wrth i’r Cymro orffen yn drydydd, 17 eiliad y tu ôl i’r Ffrancwr.

Roedd e 11 eiliad y tu ôl i Michael Woods o Ganada ar y cyfan cyn y cymal olaf, ond roedd Woods allan ohoni yn y ras yn erbyn y cloc wrth i’r Cymro fanteisio ar ei wendid.

Curodd Thomas Richie Porte o 28 eiliad, gyda Fausto Masnada yn drydydd, 10 eiliad y tu ôl i’r ail safle.

“Dw i’n hapus iawn,” meddai Geraint Thomas.

“Yn enwedig ar ôl yr anffawd bach ddoe nad oedd yn ddelfrydol, ac fe wnaeth heddiw’n fwy o her.

“Ro’n i’n teimlo’n dda ac fe wnaeth fy atgoffa o’r adeg pan wnes i ennill y Tour yn Esepelette, roedd yn gymal eitha’ tebyg.

“Wrth ddringo i lawr am y tro olaf, roedden nhw ar y radio yn dweud wrtha’ i am bwyllo a pheidio â gwneud unrhyw beth twp.

“Dw i’n hapus iawn o gael ei orffen e.”

Llygadu’r Tour de France

Bydd sylw Geraint Thomas nawr yn troi at y Tour de France.

“Dywedais i ar ddechrau’r flwyddyn mai fy nod oedd y Tour a phob ras yn arwain i fyny at hynny,” meddai.

“Wnes i ddim rhoi unrhyw bwysau arnaf fi fy hun i berfformio’n gynnar, mewn gwirionedd, ond mae hi fel pe bawn i wedi siapio’n eitha’ cynnar ac wedi cael llawer o rasys da.

“Nid ’mod i heb berfformio ers ennill y Tour, ro’n i’n ail (yn y Tour yn 2019), yn ail yn y Tirreno-Adriatico (y llynedd) ac yn drydydd yng Nghatalwnia felly dw i wedi bod i fyny yno, ond mae’n braf cael y fuddugoliaeth.”