Agorodd cil y drws i ambell chwaraewr Cymru’r wythnos hon wrth i UEFA gadarnhau y bydd pob gwlad yn cael enwi carfan o 26 chwaraewr yn hytrach na’r 23 arferol ar gyfer yr Ewros.

A roddodd hynny hwb ychwanegol i rai ohonynt y penwythnos hwn tybed? Un o’r cyfleoedd olaf i greu argraff ar Rob Page cyn iddo enwi ei garfan.

 

*

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Roedd munudau’n hynod brin i Gymry’r Uwch Gynghrair y penwythnos hwn. Chwaraeodd yr unig un sydd yn chwarae’n rheolaidd, Tyler Roberts, y 90 munud i Leeds wrth iddynt golli yn Brighton ddydd Sadwrn ac fe ddechreuodd Gareth Bale gêm Tottenham yn erbyn Sheffield United nos Sul.

A chafodd Bale gêm i’w chofio, yn sgorio hatric wych mewn buddugoliaeth o bedair gôl i ddim. Daeth y gyntaf ddeg munud cyn yr egwyl wrth iddo orffen yn dda yn y cwrt cosbi wedi pas Serge Aurier dros yr amddiffyn.

Roedd yr ail yn chwip o ergyd i do’r rhwyd wedi gwrthymosodiad chwim a’r drydedd yn ergyd isel gywir o ochr y cwrt cosbi. Tair gôl o safon ac mae Bale bellach wedi sgorio gôl bob 73 munud y tymor hwn, y record orau yn y gynghrair.

Gareth Bale

Nid oedd Ben Davies na Joe Rodon yng ngharfan Spurs ar gyfer y gêm honno a dim golwg o Ethan Ampadu i’r gwrthwynebwyr.

Eilyddion heb eu defnyddio a oedd Danny Ward yng ngêm Caerlŷr yn Southampton nos Wener a Neil Taylor i Aston Villa yn erbyn Everton nos Sadwrn. Ac mae Wayne Hennessey yn parhau i fethu â chael ei le yng ngharfan Crystal Palace.

Nid oedd Dan James a Neco Williams yng ngharfanau Man U a Lerpwl ar gyfer y gêm fawr ddydd Sul ond cafodd y gêm ei gohirio pryn bynnag oherwydd protestiadau gan y cefnogwyr yn Old Trafford.

 

*

 

Y Bencampwriaeth

Harry Wilson a oedd seren y penwythnos yn y Bencampwriaeth, yn sgorio hatric wych yn erbyn Birmingham wrth i Gaerdydd ennill o bedir gôl i ddim.

Roedd y gyntaf o’r dair yn wych, yn dal y gôl-geidwad oddi ar ei linell gyda chynnig deheuig gydag ochr allan ei droed chwith o 35 llath. Ciciau rhydd nodweddiadol a oedd y ddwy arall, pob un o’r tair gôl yn rai o safon.

Harry Wilson

Cymro arall a gafodd y llall, Mark Harris yn dod oddi ar y fainc yn lle Kieffer Moore ar hanner amser ac yn sgorio gydag ergyd gadarn.

Chwaraeodd Rubin Colwill hefyd wrth i Mick McCarthy ddechrau gyda thri Chymro yn y llinell flaen, Colwill a Wilson yn chwarae tu ôl i Moore. Roedd ychydig o funudau oddi ar y fainc i Jonny Williams ar ddiwedd y gêm hefyd wrth i Wilson gael ei wobrwyo am ei berfformiad gwych gyda’r dewis cyntaf o gawod.

Roedd Cymro ymysg y sgorwyr ar y Liberty hefyd wrth i gôl Connor Roberts gipio’r tri phwynt i Abertawe yn erbyn Derby. Gôl dda a oedd hi hefyd, foli daclus o ongl dynn gan y cefnwr de yn sicrhau buddugoliaeth o ddwy gôl i un wedi i beniad Tom Lawrence roi’r ymwelwyr ar y blaen.

Dechreuodd Roberts ynghyd â Ben Cabango a Liam Cullen ac roedd ymddangosiadau oddi ar y fainc i’r ddau Cooper, Oli a Brandon.

Roedd hi’n ddiwrnod da i’r sgorwyr Cymreig yn y Bencampwriaeth. Tom Bradshaw a sgoriodd bedwaredd Millwall wrth iddynt guro Bristol City o bedair i un a Ched Evans a rwydodd ail Preston yn eu buddugoliaeth hwy o ddwy i ddim yn erbyn Barnsley. Chwaraeodd Andrew Hughes i North End yn y gêm honno hefyd.

Cadwodd Wycombe eu gobeithion hynod fain o aros yn y gynghrair yn fyw gyda buddugoliaeth o gôl i ddim yn erbyn Bournemouth, gyda Joe Jacobson yn chwarae i’r Crwydriaid. Roedd ymddangosiad prin i Chris Mepham yn nhîm Bournemouth yn ogystal â gêm arall yng nghoesau David Brooks.

Mae gobeithion Rotherham o aros i fyny fymryn yn well gan fod ganddynt un gêm yn fwy i’w chwarae; gêm gyfartal a gawsant yn erbyn Blackburn y penwythnos hwn gyda Shaun MacDonald yn chwarae’r hanner cyntaf.

Curodd QPR Stoke o ddwy gôl i ddim gyda George Thomas yn chwarae’r chwarter awr olaf i Rangers. Dechreuodd Adam Davies, Rhys Norrington-Davies a Rabbi Matondo i Stoke ac ymddangosodd Sam Vokes oddi ar y fainc. Eilyddion heb eu defnyddio a oedd y Cymry ifanc, Chris Norton ac Eddy Jones.

Mae Tom Lockyer yn parhau i fod allan o garfan Luton gydag anaf ac ar y fainc yr oedd Joe Morrell yn erbyn Middlesbrough ddydd Sadwrn.

Cafodd y Cymro deunaw oed, Fin Stevens, gwpl o funudau oddi ar y fainc wrth i Brentford guro Watford o ddwy gôl i ddim.

 

*

 

Cynghreiriau is

Bydd yn rhaid i Lincoln fodloni ar le yng ngemau ail gyfle’r Adran Gyntaf wedi i’w gobeithion main o orffen yn y ddau uchaf ddod i ben gyda gêm gyfartal yn erbyn Peterborough. Chwaraeodd Regan Poole ond roedd Brennan Johnson yn absennol ar ôl dioddef anaf yn erbyn yr Amwythig ganol wythnos.

Pwynt yn unig sydd ei angen ar Blackpool o’u dwy gêm olaf i sicrhau lle yn y chwech uchaf yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus yn Northampton. Record amddiffynnol wych y Tangerines sydd yn bennaf gyfrifol ac roedd llechen lân arall i Chris Maxwell wrth iddynt ennill hon o dair gôl i ddim.

Mae gobeithion Charlton o gyrraedd y gemau ail gyfle yn dechrau diflannu wedi gêm gyfartal gôl yr un yn Accrington, gêm y chwaraeodd Chris Gunter fel ôl-asgellwr ynddi.

Chris Gunter

Mae’r chwech uchaf allan o gyrraedd Ipswich er gwaethaf buddugoliaeth o ddwy gôl i un yn Swindon; dechreuodd David Cornell yn y gôl a Gwion Edwards yn yr ymosod i Fois y Tractor.

Cafwyd cadarnhad y bydd Wigan yn chwarae yn yr Adran Gyntaf eto’r tymor nesaf er iddynt golli yn Hull. Chwaraeodd Lee Evans yn y golled o dair i un yn erbyn y pencampwyr ond mae ei dîm yn ddiogel oherwydd colledion Rochdale a Northampton.

Doncaster a Matthew Smith a gafodd y gorau o Rochdale ac fe chwaraeodd Wes Burns wrth i Fleetwood gael gêm gyfartal yn erbyn yr MK Dons.

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Luke Jephcott yng ngholled Plymouth yn Sunderland.

Mae lle Casnewydd yng ngemau ail gyfle’r Ail Adran fwy neu lai yn ddiogel yn dilyn buddugoliaeth dda yn erbyn y tîm ar y brig, Cheltenham, ddydd Sadwrn. Gôl i ddim a oedd hi i’r Alltudion gyda Tom King, Liam Shephard, Aaron Lewis, Josh Sheehan a Lewis Collins yn dechrau i dîm Mike Flynn.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Sicrhaodd Aberdeen eu lle yn Ewrop ar gyfer y tymor nesaf gyda buddugoliaeth o ddwy gôl i un yn erbyn Livingston yn Uwch Gynghrair yr Alban ddydd Sadwrn. Ryan Hedges a gafodd yr ail gôl holl bwysig, a hynny bedwar munud yn unig ar ôl dod i’r cae fel eilydd wedi cyfnod hir allan gydag anaf.

Colli o gôl i ddim fu hanes Hibs yn erbyn St Johnsone gyda Christian Doidge yn chwarae’r gêm gyfan.

Gyda’u lle yn y gemau ail gyfle yn ddiogel, cafodd Owain Fôn Williams ei orffwys ar gyfer gêm olaf Dunfermline o’r tymor arferol ym Mhencampwriaeth yr Alban, yn erbyn Alloa nos Wener.

Chwaraeodd Robbie Burton ychydig o funudau ar ddiwedd buddugoliaeth Dinamo Zagreb yn erbyn Slaven Belupo ym mhrif adran Croatia ddydd Sadwrn. Cafodd Dylan Levitt ychydig yn fwy o amser ar y cae yn yr un gynghrair ddydd Sul ond colli fu hanes ei dîm, NK Istra, yn erbyn HNK Gorica wrth iddynt aros ar waelod y tabl.

Enillodd Christiano Ronaldo y gêm i Juventus gyda dwy gôl hwyr yn erbyn Udinese ddydd Sul ond gwylio o’r fainc a wnaeth Aaron Ramsey.

 

*

 

Gwilym Dwyfor