Mae disgwyl i reolwr newydd tîm pêl-droed Spurs gael yr hawl i gadw’r Cymro Gareth Bale ar fenthyg am dymor arall.
Ryan Mason yw’r rheolwr dros dro ar ôl i Jose Mourinho gael ei ddiswyddo fis diwethaf.
Ond pan ddaw’r amser i ddenu rheolwr newydd, fe fydd sefyllfa’r ymosodwr ar yr agenda ac mae lle i gredu bod Spurs yn teimlo y byddai ei gadw ar fenthyg o fudd i’r clwb ac y byddai’n gwneud synnwyr yn ariannol, yn ôl y Daily Mail.
Fe allai gostio £12m i Spurs weithredu’r cymal yn ei gytundeb fyddai’n ei alluogi i symud ar fenthyg am ail dymor, ond mae’n debyg y byddai’n costio llawer mwy i ddenu chwaraewr arall yn barhaol.
Wrth ddenu Bale haf diwethaf, fe wnaeth Spurs sicrhau bod ganddyn nhw’r opsiwn o ymestyn ei gytundeb am ail dymor, yn ddibynnol ar ewyllys a dymuniad y chwaraewr i aros yng ngogledd Llundain.
Maen nhw’n talu oddeutu £240,000 i’r Cymro ar hyn o bryd fel rhan o’r trosglwyddiad ar fenthyg o Real Madrid.
Mae e wedi sgorio 14 o goliau hyd yn hyn, gan gynnwys hatric yn erbyn Sheffield United dros y penwythnos – dim ond Harry Kane a Son Heung-min sydd wedi sgorio mwy o goliau i’r clwb y tymor hwn.