Mae cystadleuaeth griced yr IPL – neu Uwch Gynghrair India – wedi cael ei gohirio am gyfnod amhenodol yn sgil argyfwng Covid-19 y wlad.

Mae’r datblygiad diweddaraf yn gadael chwaraewyr yn ceisio gadael y wlad yn ddiogel i ddychwelyd i wahanol rannau o’r byd.

Er gwaetha’r argyfwng, ceisiodd y trefnwyr barhau â’r gystadleuaeth – un o gystadlaethau mwya’r byd – ond fe ddaeth yn amlwg bellach fod y sefyllfa’n rhy ddifrifol iddi allu mynd yn ei blaen.

Fe ddaw yn dilyn adroddiadau bod swigod diogel sawl tîm wedi cael eu torri a bod nifer o achosion positif, sydd wedi arwain y BCCI – Bwrdd Rheoli Criced yn India – i bleidleisio’n unfrydol o blaid gohirio’r gystadleuaeth.

Mewn datganiad, dywed y BCCI nad ydyn nhw am “beryglu diogelwch chwaraewyr, staff cynorthwyol a phobol eraill sydd ynghlwm wrth drefnu’r IPL”.

Dywed y trefnwyr eu bod nhw wedi ceisio “dod â phositifrwydd a llawenydd” i bobol drwy barhau i gynnal y gystadleuaeth, ond nad yw hynny bellach yn bosib.

Maen nhw’n dweud bod trefniadau ar y gweill i sicrhau bod pawb yn gallu mynd adre’n ddiogel.