Mae Dean Keates, rheolwr tîm pêl-droed Wrecsam, yn dweud ei fod e wedi cael ei sarhau a’i fygwth ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn ôl adroddiadau’r BBC, mae’n dweud ei fod e wedi cael bygythiadau i losgi ei gartref, mae ei blant wedi cael eu sarhau ac roedd ambell neges yn dweud eu bod nhw’n gobeithio y byddai’n cael ei heintio â Covid-19.

Daw hyn ar ôl boicot y byd pêl-droed o’r cyfryngau cymdeithasol dros y penwythnos.

Yn ôl Keates, fe wnaeth y sefyllfa ei orfodi i ystyried ei ddyfodol gyda’r clwb.

“Mae peth o’r sarhad wedi bod yn ffiaidd, a bod yn onest,” meddai.

“Pan ddaw i’r pwynt lle mae pobol yn hapus i’ch sarhau chi… dw i wedi cael pobol yn bygwth llosgi fy nhŷ i lawr, pethau yn erbyn fy mhlant, sarhad personol… Dw i jyst ddim yn ei ddeall o.

“A phan fo’n bersonol, pan gafodd ei anelu at fy nheulu, fy mhlant ac mae pobol yn cymryd arnyn nhw eu hunain i ddymuno eich bod chi’n dal Covid-19 a bod hynny’n eich cael chi allan o glwb pêl-droed, mae o’n anodd i’w dderbyn.

“Dw i ddim am ddweud celwydd, pan ddaw i’r lefel hynny pan fo pobol yn dweud pethau am eich plant neu beth bynnag, mae adegau lle dw i wedi meddwl ‘ydi o’n werth o?’

“Ond dw i erioed wedi cuddio rhag pethau.

“Pan fo hynny’n digwydd, mae angen i chi feddwl fod yna adegau pan fo angen i ddynoliaeth fod ychydig yn fwy ystyriol o deimladau pobol.

“Pan fo pobol yn dymuno i chi ddal Covid, mae o’n ffiaidd.”

‘Mae’n rhaid gwneud mwy’

Yn ôl Dean Keates a Chlwb Pêl-droed Wrecsam, mae’n rhaid gwneud mwy i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

“Mae beirniadaeth bêl-droed yn rhan o’r peth, erbyn 5 o’r gloch mae pawb yn gwybod eich swydd yn well na chi,” meddai.

“Rydan ni’n gweithio’n galed a dydi o ddim bob amser yn mynd yn ôl y cynllun.

“Mae’n destun siom ein bod ni’n byw mewn oes pan fo hyn yn digwydd.

“Rhaid i gwmnïau’r cyfryngau cymdeithasol wneud mwy.”