Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi ymateb yn chwyrn i negeseuon hiliol dderbyniodd un o’u chwaraewyr ar y cyfryngau cymdeithasol dros y penwythnos.

Derbyniodd Morgan Whittaker y negeseuon yn ystod boicot y byd pêl-droed o’r cyfryngau cymdeithasol o ganlyniad i gynnydd mewn negeseuon o’r fath.

Dros y misoedd diwethaf, mae Ben Cabango, Jamal Lowe a Yan Dhanda wedi derbyn negeseuon tebyg.

Digwyddodd yr achos diweddaraf ar ôl gêm yr Elyrch yn erbyn Derby yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn (Mai 1), wrth i Whittaker sgorio yn erbyn ei hen glwb.

Mewn datganiad, dywed y clwb eu bod nhw’n “drist, yn ddig ac wedi’u ffieiddio” gan y sefyllfa ddiweddaraf, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi rhoi gwybod i Heddlu’r De.

“Mae’r ffaith fod hyn wedi digwydd yn ystod cyfnod pan fo clybiau, chwaraewyr a rhanddeiliaid wedi dod ynghyd ar gyfer boicot o’r cyfryngau cymdeithasol am yr union reswm hwnnw, unwaith eto yn dangos faint o waith sydd angen ei wneud o hyd,” meddai llefarydd ar ran y clwb.

“Yn drist iawn, Morgan yw pedwerydd chwaraewr Abertawe i ddiodde’r fath sarhad ffiaidd a gwarthus ar-lein ers mis Chwefror – sy’n dditment damniol o’r byd rydyn ni’n byw ynddo.”

Dywed y clwb y byddan nhw’n parhau i frwydro i sicrhau bod cwmnïau’r cyfryngau cymdeithasol yn gweithredu.

“Yn ddiweddar, ysgrifennodd y prif weithredwr Julian Winter at Twitter a Facebook, ill dau, ac fe wnaeth yr ail ohonyn nhw ymateb ag enghreifftiau o sut maen nhw’n ceisio brwydro yn erbyn sarhad ar-lein,” meddai’r llefarydd wedyn.

“Ond gyda’r fath ddigwyddiadau ffiaidd yn ymddangos yn ddyddiol, mae’n amlwg bod angen gweithredu’n llymach.

“Mae gan Morgan gefnogaeth lawn a diwyro pawb yn Abertawe, ac mae ein neges yn dal yn glir. Digon yw digon.”

Sefydliadau pêl-droed yn dilyn esiampl Abertawe wrth gynnal boicot o’r cyfryngau cymdeithasol

Bydd yn dechrau am 3 o’r gloch brynhawn Gwener (Ebrill 30) ac yn dod i ben am 11.59 nos Lun (Mai 3)
Logo Abertawe

Streic wythnos CPD Abertawe fel safiad yn erbyn camdriniaeth ar-lein

Tri o chwaraewyr wedi cael eu targedu gan ymosodiadau hiliol o fewn y saith wythnos ddiwethaf
Yan Dhanda

Pêl-droediwr Asiaidd Abertawe’n galw am waharddiad oes am negeseuon hiliol ar y we

Alun Rhys Chivers

“Dydy’r cwmnïau cyfryngau cymdeithasol ddim wedi fy argyhoeddi y byddan nhw’n gwneud yn well y tro nesaf” medd Yan Dhanda wrth golwg360
Logo Abertawe

Heddlu yn ymchwilio i neges hiliol tuag at chwaraewr Abertawe

Yn dilyn colled ei dîm yn erbyn Manchester City derbyniodd, Yan Dhanda, negeseuon hiliol ar wefannau cymdeithasol