Fe fydd nifer o sefydliadau pêl-droed yn dilyn esiampl Clwb Pêl-droed Abertawe wrth gynnal boicot o’r cyfryngau cymdeithasol wrth iddyn nhw geisio brwydro yn erbyn hiliaeth.
Yn eu plith mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, Uwch Gynghrair Lloegr, y Gynghrair Bêl-droed (EFL), Super League y Menywod, Pencampwriaeth y Menywod, Cymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol (PFA), Cymdeithas Rheolwyr y Gynghrair (LMA), PGMOL, Kick It Out, Women in Football a Chymdeithas y Cefnogwyr Pêl-droed (FSA).
Yn ogystal â’r Elyrch, mae Birmingham a Glasgow Rangers hefyd wedi cynnal boicot.
Mae Thierry Henry, cyn-chwaraewr Arsenal wedi gadael y cyfryngau cymdeithasol yn llwyr, tra bod Jordan Henderson, capten Lerpwl, yn dweud y byddai yntau hefyd yn barod i wneud hynny er mwyn gwneud safiad yn erbyn hiliaeth.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae tri o chwaraewyr Abertawe – Ben Cabango, Yan Dhanda a Jamal Lowe – wedi cael eu sarhau’n hiliol ar y cyfryngau cymdeithasol.
Daeth pawb yn y clwb oddi ar y cyfryngau cymdeithasol am wythnos gyfan yn dilyn y gyfres o ddigwyddiadau.
Ond mae’n broblem sydd wedi effeithio nifer fawr o glybiau, ac maen nhw i gyd bellach yn dweud “Digon yw digon”.
Datganiad
“Gyda’n gilydd, mae’r gêm yn cydnabod cyrhaeddiad a gwerth sylweddol y cyfryngau cymdeithasol i’n camp,” meddai’r sefydliadau mewn datganiad ar y cyd.
“Mae cysylltedd a mynediad at y cefnogwyr sydd wrth galon pêl-droed yn parhau’n hanfodol.
“Fodd bynnag, mae’r boicot yn dangos pêl-droed Lloegr yn dod ynghyd i bwysleisio bod rhaid i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol wneud mwy i ddileu casineb ar-lein, tra’n tynnu sylw at bwysigrwydd addysgu pobol yn y frwydr barhaus yn erbyn gwahaniaethu.
“Wrth gwrs na fydd gweithredu boicot gan y byd pêl-droed ynddo’i hun yn dileu pla sylwadau sarhaus ar-lein, ond fe fydd yn dangos bod y gêm yn barod i gymryd camau gwirfoddol a rhagweithiol yn y frwydr barhaus hon.”
Cyfathrebu â phenaethiaid Facebook a Twitter
Mae nifer o glybiau eisoes wedi ceisio cyfathrebu â Mark Zuckerberg, pennaeth Facebook, a Jack Dorsey, pennaeth Twitter ond dydyn nhw ddim yn credu eu bod nhw wedi gwneud digon i ddileu casineb oddi ar y llwyfannau hynny ac Instagram, sydd dan berchnogaeth Facebook.
Mae’r awdurdodau pêl-droed yn dweud y bu “peth cynnydd” ond fod angen gwneud mwy i sicrhau bod “canlyniadau bywyd go iawn” i’r rhai sy’n euog o sylwadau sarhaus ar y we.
Maen nhw hefyd yn galw ar Lywodraeth Prydain i sicrhau bod deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno er mwyn gwneud cwmnïau o’r fath “yn fwy atebol”.
Daw hynny yn dilyn trafodaethau gan bwyllgor Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS).
Streic wythnos CPD Abertawe fel safiad yn erbyn camdriniaeth ar-lein
Brwydr pêl-droed yn erbyn hiliaeth yn dal i fod “mewn lle tywyll” – medd cyn-ymosodwr Caerdydd
Gareth Bale yn barod i foicotio’r cyfryngau cymdeithasol oherwydd cam-drin ar-lein
Facebook yn cau cyfrifon wedi i bêl-droedwyr Cymru dderbyn camdriniaeth hiliol
Yr Elyrch a’r Adar Gleision yn sefyll ynghyd yn erbyn hiliaeth cyn y gêm ddarbi
Cefnogwyr Caerdydd ac Abertawe yn uno i roi’r cerdyn coch i hiliaeth
Pêl-droediwr Asiaidd Abertawe’n galw am waharddiad oes am negeseuon hiliol ar y we