Mae cyn-ymosodwr Caerdydd, Cameron Jerome, o’r farn fod pêl-droed yn dal i fod mewn lle tywyll, a bod y gêm wedi methu â mynd i’r afael â hiliaeth ers i chwaraewyr ddechrau penlinio cyn gemau.

Mae Jerome, a chwaraeodd i Gaerdydd o 2004 i 2006, wedi stopio penlinio gan ei fod yn teimlo i’r neges fynd ar goll yn sgil y gamdriniaeth hiliol mae’r chwaraewyr yn parhau i’w derbyn.

Derbyniodd Rabbi Matondo a Ben Cabango negeseuon hiliol ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl gêm gyfeillgar Cymru yn erbyn Mecsico ddydd Sadwrn diwethaf (27 Mawrth).

Cafodd cyfrifon Instagram a anfonodd sylwadau hiliol at y ddau eu cau gan Facebook.

Mae Marcus Rashford, Anthony Martial, Wilfried Zaha, Axel Tuanzebe, a Jude Bellingham ymhlith y chwaraewyr sydd wedi derbyn negeseuon hiliol ar-lein eleni, ac mae Cameron Jerome yn methu â gweld bod y sefyllfa’n gwella.

Bu i seren Cymru, Jonny Williams, sôn am ba mor browd ydoedd o ymateb ei ffrind, Zaha, i’r gamdriniaeth hiliol.

Ac mewn cyfweliad â golwg360 dywedodd chwaraewr Abertawe, Yan Dhanda, y dylid gorfod “profi pwy ydych chi cyn cofrestru i’r apiau cyfryngau cymdeithasol” gan sôn am y loes a brofodd yn sgil camdriniaeth hiliol.

“Nid oes atebolrwydd”

Ac mae Cameron Jerome yn cytuno.

“Nid oes atebolrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, a nes y bydd, rydych chi dal yn sownd mewn lle tywyll yn nhermau hiliaeth a gwahaniaethu,” meddai.

“Mae hiliaeth mor amlwg ar y cyfryngau cymdeithas nes ei fod yn dod law yn llaw, ac mae’n rhy hawdd mynd at chwaraewyr.

“Roedd yn wych pan ddaethom ni’n ôl pan ailddechreuodd gemau, roedd y neges yn gryf, ond nid yw’r pwerau o fewn y byd pêl-droed wedi adeiladu ar hyn, na gwneud cynnydd.

“Dydi’r neges [o benlinio] ddim yn ddigon pwerus,” pwysleisia.

“Does dim digon wedi cael ei wneud gan y bobol sy’n rheoli.

“Mae eu hymgyrchoedd yn fach ac yn digwydd yn aml, ond maen nhw’n ddiystyr nes eu bod nhw’n gweithredu’n erbyn cefnogwyr sy’n cam-drin chwaraewyr, a phobol, ar y cyfryngau cymdeithasol – nid dim ond gwahaniaethu hiliol, ond gwahaniaethu ym mhob ffurf.

“Nes bod rhywbeth yn cael ei wneud, rheolau’n cael eu gosod gan gyrff rheoli, yna mewn chwaraeon – nid pêl-droed yn unig – ni fydd pethau’n newid.”

Gadawodd cyn-ymosodwr enwog Ffrainc ac Arsenal, Thierry Henry, y cyfryngau cymdeithasol wythnos diwethaf, ac ni fydd yn dychwelyd nes bod y cwmnïau yn gweithredu.

Dywed Gareth Bale y byddai’n barod i ymuno â boicot cyfryngau cymdeithasol i fynd i’r afael â cham-drin ar-lein.

“Golau ar ddiwedd y twnel”

Pan oedd Cameron Jerome yn chwarae i dîm Norwich, daeth Comisiwn Rheoleiddio Annibynnol i’r canlyniad “nad oedd yn bosib profi” fod amddiffynnwr tîm Leeds wedi’i gam-drin yn hiliol.

Er hynny, dywedodd y Comisiwn fod Cameron Jerome yn “dyst gonest oedd wir yn credu iddo dderbyn camdriniaeth hiliol”.

Dywedodd cyn-ymosodwr Caerdydd, sydd nawr yn chwarae i dîm MK Dons, fod penodiad Maheta Molango fel Prif Weithredwr Cymdeithas Peldroedwyr Proffesiynol Lloegr yn galonogol, ac yn rhoi gobaith i chwaraewyr eraill o wahanol gefndiroedd.

“Mae cael ymgeisydd BAME mewn safle o bŵer yn galonogol. Mae’n dangos fod golau ar ddiwedd y twnnel. A fydd hyn yn adlewyrchu ar swyddi hyfforddi a rheoli? Ar fyrddau?” gofynna Cameron Jerome.

“Gobeithio y bydd hyn yn annog cyn-chwaraewyr proffesiynol BAME i feddwl eu bod nhw’n gallu cyrraedd swyddi uchel – bod gobaith, a’u bod nhw’n gallu ymgeisio.”

Dim dychweliad i Gaerdydd

Bu bron iddo ail-ymuno â Chaerdydd ym mis Ionawr pan wnaeth y clwb gynnig annisgwyl amdano.

Gwrthodwyd cais o £100,000 ynghyd ag ychwanegion ar ddiwrnod cau y ffenestr drosglwyddo, er y byddai wedi hoffi dychwelyd i’r clwb lle sgoriodd 27 o golau mewn 79 gêm, mae Jerome yn athronyddol am y ffaith na lwyddwyd i daro bargen.

Dywedodd: “Byddai wedi bod yn braf mynd yn ôl i’r man lle wnes i fy enw – ond rwy’n gwybod y gall y pethau hyn fod yn gymhleth a daeth yn rhy hwyr i MK gael rhywun yn fy lle.”

Yan Dhanda

Pêl-droediwr Asiaidd Abertawe’n galw am waharddiad oes am negeseuon hiliol ar y we

Alun Rhys Chivers

“Dydy’r cwmnïau cyfryngau cymdeithasol ddim wedi fy argyhoeddi y byddan nhw’n gwneud yn well y tro nesaf” medd Yan Dhanda wrth golwg360