Rhaid i Tyler Roberts ddysgu o’i gamgymeriad ar ôl i’r ymosodwr gael ei anfon adref yn gynnar gan Gymru yr wythnos hon am dorri rheolau’r tîm.

Dyna ddywedodd ei reolwr, yr Archentwr enwog Marcelo Bielsa, yn ei gynhadledd i’r wasg heddiw.

Fe wnaeth Roberts, Hal Robson-Kanu a Rabbi Matondo fethu gêm ragbrofol Cwpan y Byd Cymru yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ddydd Mawrth ar ôl cael eu hanfon adref am aros i fyny’n rhy hwyr a thorri cyrffyw yng ngwesty’r tîm.

“Mae canlyniadau i gamgymeriadau bob amser”

Pan holwyd Bielsa am y mater, dywedodd: “Mae unrhyw chwaraewr sydd ddim yn glynu wrth y rheolau, ar ôl cytuno iddynt, yn cyflawni camgymeriad. Mae canlyniadau i gamgymeriadau bob amser.

“Mae rhai ohonynt yn bositif: peidio ag ailadrodd yr un camgymeriadau eto ac eto, ac mae gan eraill ganlyniadau gwaeth – wrth iddyn nhw eich cosbi am eich camgymeriadau.

“Mae Tyler yn chwaraewr sy’n agos at gael diffyg profiad. [Hynny yw] ffordd o ddeall rhai o’i gamgymeriadau ymddygiadol.

“Siawns na fydd hyn yn ei helpu i beidio â gwneud camgymeriadau, gan nad ydynt yn gyfleus.”

Cymru’n curo’r Tsieciaid

Gôl hwyr James yn cipio’r tri phwynt