Mae Mark Williams yn mynnu na fydd e’n dod yn bencampwr y byd snwcer eto eleni.

Daw sylwadau’r Cymro 46 oed er ei fod e wedi cyrraedd rownd wyth olaf Pencampwriaeth y Byd yn y Crucible yn Sheffield ar ôl curo’r Albanwr John Higgins o 13-7.

Bydd e’n herio Mark Selby neu Mark Allen yn ei gêm nesaf ac er nad yw’n ymddangos yn hyderus, mae’n dweud y bydd e’n chwarae’n ymosodol.

“Mae’n fuddugoliaeth enfawr,” meddai am ei ganlyniad yn erbyn John Higgins.

“I fi ac i lawer o bobol eraill, John [Higgins] yw’r ail chwaraewr gorau erioed.

“Mae’n fuddugoliaeth wych i fi, mae e’n dal i fod yn un o chwaraewyr gorau’r byd.

“Beth ydych chi eisiau i fi ei ddweud, ‘Dw i’n meddwl y galla i ei hennill?’ Dw i ddim yn meddwl y galla i.

“Pwy bynnag  bydda i’n ei herio fydd y ffefryn.

“Does dim ots gyda fi pwy dw i’n chwarae yn ei erbyn, wir.

“Dw i jyst yn mwynhau fy hun.

“Dw i erioed wedi ofni colli.

“Mae llawer o bobol sy’n chwarae yn ofni colli mwy na’u bod nhw’n gwthio er mwyn ennill.”

‘Dim byd i’w brofi’

Mae’n mynnu hefyd nad oes ganddo fe “ddim byd i’w brofi”, gan addo chwarae’r “ergydion mwyaf gwyllt erioed” pe bai angen.

“Os dw i’n meddwl mai dyna’r ergyd orau, af fi amdani,” meddai.

“Os dw i’n colli, dw i’n colli. Does dim problem.

“Does dim rhaid i fi ennill er mwyn profi unrhyw beth rhagor, a’r ffordd dw i’n mwynhau yw drwy mynd am bopeth, bron iawn.

“Dw i ddim yn meddwl fy mod i’n ddigon da i ennill y twrnament ond dw i’n meddwl fy mod i’n sicr yn ddigon peryglus i guro unrhyw un ar fy niwrnod gorau.”

Ergyd ddadleuol

Yn y cyfamser, mae’n addo parhau i ddefnyddio’i ergyd ddadleuol i dorri’r peli coch ar ddechrau’r ffrâm.

Mae’n mynnu nad oes unrhyw beth o’i le â gwthio’r bêl wen i gefn y pac oddi ar gefn y bwrdd.

“Mae pobol wedi bod yn lladd arna i ers misoedd,” meddai.

“Ond yn sydyn iawn, mae ambell un arall yn dechrau ei wneud e a dyw e ddim yn ffordd gynddrwg o dorri ag yr oedd hi.

“Dw i ddim am roi’r gorau i’w wneud e.”

Mae’r WPBSA, y corff llywodraethu, yn gwadu y byddan nhw’n ceisio ei wahardd e rhag chwarae’r fath ergyd yn y dyfodol.