Aberystwyth 1-1 Met Caerdydd

Cafwyd dwy gôl hwyr ar Goedlan y Parc nos Wener wrth iddi orffen yn gyfartal rhwng Aberystwyth a Met Caerdydd yn y gêm hanner gwaelod.

Amddiffyn amheus

Nid oedd gôl Aber gyda deuddeg munud i fynd yn un i’r puryddion. Peidiwch â gadael i’r bêl sboncio yn y cwrt cosbi yw gwers gyntaf pob amddiffyn ond nid yw hi ar y cwricwlwm ym Met Caerdydd yn amlwg! Anelodd Marc Williams bêl hir obeithiol i’r bocs ac yn dilyn anallu’r ymwelwyr i’w chlirio fe adlamodd yn garedig i Owain Jones a pheniodd yntau’r bêl dros Alex Lang ac i gefn y rhwyd.

Nid oedd amddiffyn gwych ar waith pan yr unionodd yr ymwelwyr yn yr amser a ganiateir am anafiadau ychwaith ond roedd gorffeniad Ollie Hulbert yn bert a dweud y lleiaf, y chwaraewr sydd ar fenthyg o Bristol Rovers yn troi ac ergydio’n gelfydd mewn un symudiad.

Mae’r canlyniad yn cadw Aber yn nawfed a’r Met yn ddegfed yn y tabl, gyda gwahaniaeth goliau’n unig yn eu gwahanu.

 

*

 

Hwlffordd 0-0 Y Fflint

Gêm rhwng dau dîm heb ddim byd i chwarae amdano a oedd hi ar Ddôl y Bont ddydd Sadwrn ac roedd hynny’n amlwg braidd wrth iddi orffen yn ddi sgôr rhwng Hwlffordd a’r Fflint.

 

*

 

Penybont 2-0 Caernarfon

Cododd Penybont i’r pedwerydd safle yn y tabl gyda buddugoliaeth dros Gaernarfon yn Stadiwm SDM Glass ddydd Sadwrn.

Dwy gôl i ddim a oedd i i’r tîm cartref gyda Kostya Georgievsky a Nathan Wood yn cael y goliau.

Yn codi fel eog

Rhoddodd Georgievsky ei dîm ar y blaen ddeg munud cyn yr egwyl, y chwaraewr lleiaf ar y cae yn sgorio gyda pheniad postyn pellaf.

Ond nid dyna a oedd y peth mwyaf cofiadwy am y gôl hon, ond yn hytrach ei ddathliad beiddgar, dynwarediad da iawn o bysgodyn!

Ar ôl creu’r gyntaf, Georgievsky a greodd yr ail i Wood yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm gyda gwaith da ar yr asgell dde. Roedd gan Wood ddigon i’w wneud hefyd ond gorffennodd yn daclus tu hwnt i’r gornel isaf ar y cynnig cyntaf.

Chwarae pump a cholli pump yw hanes Caernarfon yn y chwech uchaf erbyn hyn ac mae’r bwlch mewn safon rhyngddynt a’r gweddill yn dechrau amlygu ei hun.

 

*

 

Y Bala 1-0 Y Barri

Lassana Mendes a sgoriodd unig gôl y gêm wrth i’r Bala guro’r Barri ar Faes Tegid brynhawn Sadwrn.

Mae’r canlyniad yn fwy neu lai yn sicrhau’r trydydd safle i dîm Colin Caton gyda phum gêm i fynd.

Taran o saith llath!

Daeth unig gôl y gêm wedi deg munud o’r ail hanner ac roedd hi, o bosib, yn un o’r goliau gorau o saith llath erioed! Taran o ergyd i’r gornel uchaf gan y gŵr o Guinea-Bissau a dim gobaith i Mike Lewis yn y gôl.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Bala yn y trydydd safle a bydd angen gwyrth ar y Barri neu Benybont i’w dal hwy bellach.

 

*

 

Y Drenewydd 5-0 Derwyddon Cefn

Cododd y Drenewydd i’r seithfed safle holl bwysig gyda buddugoliaeth swmpus dros y Derwyddon Cefn ar Barc Latham ddydd Sadwrn.

Mae’r Robiniaid wedi bod ar dân ers i’r gynghrair ail gydio ac maent bellach wedi dal Hwlffordd a symud i safle’r gemau ail gyfle Ewropeaidd.

Shwmae Shane

Shwmae yr hen ffrind a oedd hi wrth i Shane Sutton benio’r Drenewydd ar y blaen ddeuddeg munud cyn yr egwyl. Mae dychweliad yr amddiffynnwr canol dylanwadol ym mis Ionawr yn dilyn tair blynedd gyda Telford wedi bod yn rhan bwysig o’r adfywiad diweddar ac fe fyddai hon wedi bod yn gôl boblogaidd iawn ar y Latham.

Tynhau pethau yn y cefn a fu prif gyfraniad Sutton yn y gemau diweddar gan adael y sgorio i rai fel Jordan Evans, a sgoriodd ei bedwaredd a’i bumed gôl mewn pum gêm yn y grasfa hon. Roedd ei gyntaf yn berl, cic rydd wych o 30 llath.

Nick Rushton a gafodd y drydedd yn yr ail hanner cyn i Evans rwydo ei ail ef a phedwaredd ei dîm bum munud o ddiwedd y naw deg.

Seithfed nef

Roedd y Derwyddon i lawr i ddeg dyn erbyn hynny oherwydd cerdyn coch Iwan Cartwright a rhoddodd hynny’r lle i’r Drenewydd sgorio’r bumed gyda symudiad tîm slic, yn cael ei orffen gan James Davies.

Mae’r Drenewydd bellach yn seithfed ar wahaniaeth goliau a gan nad oes gan Hwlffordd drwydded UEFA, hwy yw’r unig dîm o’r hanner gwaelod â gobaith gwirioneddol o’i gwneud hi i’r gemau ail gyfle.

 

*

 

Y Seintiau Newydd 1-4 Cei Connah

Cododd Cei Connah i frig y tabl gyda buddugoliaeth wych oddi cartref yn erbyn y Seintiau Newydd nos Sadwrn.

Y Nomadiaid yw’r ffefrynnau i ennill y teitl bellach ar ôl chwalu’r prif elyn o bedair gôl i un yn Neuadd y Parc yng ngêm fyw Sgorio.

Hatric Wilde

Wyth munud yn unig a oedd ar y cloc pan beniodd Mike Wilde yr ymwelwyr ar y blaen o groesiad perffaith Declan Pool. Os gwrandewch yn astud fe glywch asesiad Andy Morrison o’r gôl yn syth, yn feirniadol o amddiffyn y gwrthwynebwyr, yn cyhuddo Blaine Hudson o wylio’r bêl yn lle’r dyn!

Roedd y Seintiau’n gyfartal hanner ffordd trwy’r hanner diolch i’w chwaraewr gorau dros yr wythnosau diwethaf, Ryan Brobbel. Hon oedd ei nawfed gôl mewn saith gêm ers dychwelyd o anaf ac roedd hi’n ymdrech unigol dda.

Aeth y Nomadiaid yn ôl ar y blaen wedi hanner awr o chwarae wedi i Wilde gael y gorau o Hudson unwaith eto. Pêl letraws Kris Owens yn cael ei phenio ar draws y cwrt chwech gan Danny Davies ac roedd y blaenwr 37 mlwydd oed yn rhy effro, ac yn syml, yn rhy dda i Hudson drwsgl druan.

Roedd Morrison a’i dîm wedi sylweddoli erbyn hyn fod unrhyw bêl i’r cwrt cosbi yn mynd i achosi problemau i’r Seintiau ac roedd teimlad o deja vu am drydedd gôl Wilde yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner cyntaf. Croesiad John Disney i’r cwrt y tro hwn a Wilde yn curo’r frwydr yn yr awyr yn erbyn Hudson i gwblhau ei hatric.

Hunllef Hudson

Roedd Hudson yn cael hunllef ac mae sut na chafodd ei dynnu oddi ar y cae ar hanner amser yn ddirgelwch llwyr.

Ond roedd Cei Connah yn ddiolchgar ei fod dal yno wrth i Jamie Insall selio’r fuddugoliaeth gyda’r bedwaredd toc cyn yr awr. Camgymeriad Chris Marriott a oedd hwn i fod yn deg yn penio’r bêl i ganol y perygl ond roedd Hudson fel lori artic yn troi ac roedd hi’n dasg hawdd i Insall.

Canlyniad arwyddocaol gan ei fod yn codi Cei Connah dros y Seintiau i frig y tabl gyda phum gêm yn weddill ond perfformiad pwysicach oherwydd rhagoriaeth ymosod y Nomadiaid dros amddiffyn y Seintiau cyn i’r ddau dîm wynebu ei gilydd eto yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy nos Sadwrn nesaf.

 

*

 

Gwilym Dwyfor