Mae pryderon am ffitrwydd George North ar drothwy taith y Llewod, ar ôl iddo fe adael y cae ag anaf i’w goes wrth i’r Gweilch guro’r Gleision o 36-14 yng Nghwpan yr Enfys y PRO14 yn Stadiwm Liberty.
Roedd e’n anelu am le ar yr awyren i Dde Affrica yn dilyn perfformiadau campus i Gymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Ond fe fu’n rhaid iddo fe adael y cae yn gynnar yn yr ail hanner, a dydy hi ddim yn glir eto pa mor ddifrifol yw’r anaf.
Bydd Warren Gatland yn enwi ei garfan ar Fai 6.
Sgoriodd y Gweilch chwe chais a thri throsiad, tra bo’r Gleision wedi sgorio dau drosgais.
Cystadleuaeth Cwpan yr Enfys ‘wedi’i hollti’n ddwy’
Fe ddaw ar ôl i dimau De Affrica gael eu hatal rhag teithio i herio timau’r PRO14
Cwpan yr Enfys: “Mae’n hanfodol fod rhywfaint o rygbi’n digwydd”
Mae’r rhanbarthau rygbi ar fin cystadlu am gwpan newydd sbon, ond nid yw’r trefniadau wedi bod yn ddidrafferth