Bydd y Gweilch yn croesawu’r Gleision i Stadiwm Liberty wrth i dimau Cymru ddechrau eu hymgyrch yng Nghwpan yr Enfys heno (nos Sadwrn, Ebrill 24, 5.15yh).

Bydd y Scarlets yn teithio i’r Dreigiau fory (dydd Sul, Ebrill 25, 1 o’r gloch).

Mae’r gystadleuaeth wedi cael ei diwygio gan nad yw timau o Dde Affrica’n gallu teithio oherwydd cyfyngiadau coronafeirws ac felly, gemau darbi fydd yn cael eu cynnal am y tro.

Mae’r Gweilch a’r Gleision wedi herio’i gilydd 35 o weithiau hyd yn hyn, gyda’r Gweilch yn fuddugol ar 24 achlysur, y Gleision ddeg gwaith ac un gêm yn gorffen yn gyfartal.

Mae’r Gweilch wedi ennill pedair allan o’r chwe gêm diwethaf yn erbyn y Gleision, gyda chwe gêm allan o’r saith diwethaf yn agos iawn gyda dim ond un sgôr rhyngddyn nhw.

Justin Tipuric fydd yn arwain y Gweilch, wrth i Morgan Morris ac Ethan Roots, yn ei gêm gyntaf, gymryd eu llefydd yn y rheng ôl gyda’r capten.

Nicky Smith, Ifan Phillips a Tom Botha sydd yn y rheng flaen, gydag Adam Beard a Rhys Davies yn yr ail reng yn cwblhau’r pac.

Mae Bradley Davies ar y fainc ar ôl gwella o anaf.

Josh Thomas a Matthew Aubrey yw’r haneri, tra bod Keiran Williams ac Owen Watkin yn y canol.

Mat Protheroe a George North sydd ar yr asgell, tra bod Dan Evans yn gefnwr.

Tim tipyn llai profiadol sydd gan y Gleision, sy’n cael eu harwain gan Kirby Myhill, gyda Dai Young yn awyddus i fanteisio ar y gystadleuaeth newydd i roi cyfle i rai o’r chwaraewyr ymylol.

Dim ond Hallam Amos o blith y tîm gollodd yn erbyn Gwyddelod Llundain sy’n dechrau’r gêm, gydag Owen Lane, Ben Thomas a James Ratti i gyd yn cael eu symud i safleoedd newydd.

Yn cadw cwmni i’r capten yn y rheng flaen mae Rhys Gill a Keironn Assiratti, tra bod Ben Murphy a Rory Thornton yn yr ail reng.

Yn y rheng ôl mae James Ratti, Alun Lawrence a Gwilym Bradley.

Lewis Jones a Jason Tovey yw’r haneri, gyda Max Llewellyn ac Owen Lane yn y canol, tra bod Ben Thomas yn gefnwr, a Jason Harries a Hallam Amos ar yr asgell.

Cwpan yr Enfys: “Mae’n hanfodol fod rhywfaint o rygbi’n digwydd”

Alun Rhys Chivers

Mae’r rhanbarthau rygbi ar fin cystadlu am gwpan newydd sbon, ond nid yw’r trefniadau wedi bod yn ddidrafferth