Mae buddugoliaeth Caerdydd o 2-1 dros Wycombe yn golygu bod y Saeson bron iawn â chwympo o’r Bencampwriaeth, tra bod Casnewydd a Wrecsam wedi cadw eu gobeithion o gyrraedd y gemau ail gyfle yn fyw gyda gemau cyfartal di-sgôr.

Sgoriodd y Cymro Kieffer Moore i’r Adar Gleision cyn i Joe Jacobson, gynt o Gaerdydd, unioni’r sgôr i Wycombe.

Ond fe wnaeth ail gôl Moore yn yr ail hanner gipio’r triphwynt.

Caerwysg 0-0 Casnewydd

Mae Casnewydd yn dal yn y safleoedd ail gyfle yn dilyn gêm gyfartal ddi-sgôr yng Nghaerwysg.

Daeth cyfle gorau’r Alltudion diolch i beniad Lewis Collins, ergyd a gafodd ei harbed gan y golwr Jokull Andresson.

Roedd Andresson ar ei orau yn ystod y gêm, wrth arbed ergyd wych gan Josh Sheehan.

Daeth sawl cyfle i Gaerwysg, y gorau ohonyn nhw oddi ar droed Jake Taylor heibio’r postyn a phen Ryan Bowman, ond chawson nhw’r un ergyd gywir at y gôl.

Mae Casnewydd yn seithfed yn y tabl gyda thair gêm yn weddill, un pwynt islaw Forest Green.

Wrecsam 0-0 Chesterfield

Mae gobeithion Wrecsam a Chesterfield o gyrraedd y gemau ail gyfle yn y fantol, er eu bod nhw’n dal yn fyw i raddau, ar ôl iddyn nhw orffen yn gyfartal ddi-sgôr.

Mae Wrecsam yn seithfed, un pwynt islaw’r chweched safle hollbwysig, a Chesterfield yn wythfed.

Mae Bromley wedi codi uwchlaw’r ddau dîm yn y ras.

Daeth cyfle gorau Chesterfield wrth i Rob Lainton arbed ergyd Kairo Mitchell, cyn i Nathan Tyson ergydio’n syth at y golwr a methu ail gyfle.

Aeth Gold Omotayo yn agos i Wrecsam wrth y postyn agosaf wrth i’r bêl gael ei chlirio.