Roedd siom i dîm rygbi merched Cymru wrth iddyn nhw golli gêm olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad o 27-20 yn yr Alban.
Hon oedd y gêm i benderfynu pwy fyddai’n gorffen yn bumed a chweched, ac felly mae Cymru’n gorffen yn chweched.
Sgoriodd Megan Gaffney, Megan Kennedy, Christine Belisle ac Evie Gallagher geisiau i’r Alban.
Ond ymhlith yr uchafbwyntiau i Gymru roedd cais unigol rhagorol gan Lisa Neumann.
Er i Gymru ddechrau’r gêm yn ddigon ymosodol, roedden nhw ar y droed ôl bron yn syth o’r gic gyntaf, gyda’r Alban yn mynd am y llinell gais o fewn munudau, wrth i’r blaenwyr ymosod o’r lein i ryddhau Gaffney ar yr asgell.
Tarodd Cymru’n ôl wrth i Jaz Joyce fylchu cyn i’r clo Teleri Wyn Davies gario’r bêl i roi’r Alban ar y droed ôl am unwaith.
Ildiodd yr Alban gic gosb dan bwysau, gyda Robyn Wilkins yn cicio’r triphwynt – pwyntiau cyntaf Cymru yn y gystadleuaeth – hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf.
Roedden nhw ar y blaen funudau’n ddiweddarach ar ôl i Georgia Evans droi’r bêl drosodd i gynnig cyfle i Wilkins o flaen y pyst.
Ond tarodd yr Alban yn ôl gyda chais i Kennedy, a Helen Nelson yn ychwanegu’r trosiad i roi’r Alban ar y blaen o chwe phwynt.
Roedd amddiffyn Cymru’n dechrau gwegian, ac fe groesodd y prop Belisle i sicrhau mantais o 17-6 ar yr egwyl.
Brwydr ddewr yn yr ail hanner
Daeth Cymru allan yn ymosodol ar ddechrau’r ail hanner, a bylchodd Neumann ar yr asgell gyda chymorth Megan Davies, a chroesi wrth guro’r amddiffyn ar yr ystlys.
Ychwanegodd Wilkins ddau bwynt i ddod â Chymru’n ôl o fewn pedwar pwynt.
Ond croesodd Gallagher i’r Alban, gyda Nelson yn trosi i’w gwneud hi’n 24-13 i’r tîm cartref.
Ciciodd Nelson driphwynt arall tua’r diwedd, ond daeth cais cysur i Gymru ar ôl 82 munud, wrth i Davies groesi yn y gornel a Wilkins yn trosi i’w gwneud hi’n 27-20.