Mae prif hyfforddwr tîm rygbi menywod Cymru wedi enwi tîm “cyffrous” i wynebu’r Alban yn eu gem olaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn (Ebrill 24).
Bydd naw newid i’r tîm a wnaeth chwarae yn y golled i Iwerddon bythefnos yn ôl, a bydd tri chwaraewr yn newid safle, yn sgil anafiadau a phenderfyniadau tactegol.
Bydd Siwan Lillicrap yn methu’r gêm yn sgil anaf i’w ffêr, felly Hannah Jones, y canolwr, fydd y capten, a bydd Georgia Evans yn is-gapten.
Yn absenoldeb Siwan Lillicrap, bydd Bethan Dainton yn ymuno â’r rhes gefn ar yr ochr agored, Manon Johnes yn symud i’r ochr dywyll, a Georgia Evans yn gwisgo crys rhif 8.
Bydd y mewnwr, Megan Davies, yn dechrau am y tro cyntaf dros Gymru, a bydd Robyn Lock yn dechrau ei gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad hefyd.
Gallai pum enw newydd chwarae am y tro cyntaf yn y Chwe Gwlad petaent yn dod ar y cae oddi ar y fainc – Gwenllian Jenkins, Abbie Fleming, Shona Powell-Hughes, Jade Knight, a Megan Webb.
“Braint bod yn y sefyllfa yma”
Mae Cymru wedi dioddef dwy grasfa hyd yn hyn, gan fethu sgorio pwynt ac mae Warren Abrahams, prif hyfforddwr y tîm, wedi dweud “bod yn rhaid cymryd cyfrifoldeb a gwneud i’r un yma gyfri.”
“Rydyn ni wedi cyffroi bod cyfle i ni fynd allan unwaith eto mewn gêm Chwe Gwlad, a gwisgo’r crys,” meddai.
“Mae gennym ni rai anafiadau – mae colli Siwan fel capten, ac fel un o’r chwaraewyr sydd wedi sefyll allan hyd yn hyn, yn golled fawr yn arbennig – ond mae’n siawns i roi cyfleoedd i chwaraewyr eraill roi eu dwylo fyny gyda Chwpan Rygbi’r Byd yn digwydd flwyddyn nesaf.
“Mae’n dda gweld arweinwyr eraill yn cael cyfrifoldebau ychwanegol gyda Hannah Jones fel capten, ac un arall o’n harweinwyr, Georgia, yn is-gapten.
“Mae’n fraint bod yn y sefyllfa yna, nid yw cyfleoedd fel hyn yn ymddangos bob dydd, felly mae’n rhaid cymryd cyfrifoldeb a gwneud i’r un yma gyfri.”
Y tîm: Jasmine Joyce; Lisa Neumann, Gemma Rowland, Hannah Jones (capten), Caitlin Lewis; Robyn Wilkins, Megan Davies; Caryl Thomas, Robyn Lock, Donna Rose, Natalia John, Teleri Wyn Davies, Manon Johnes, Bethan Dainton, Georgia Evans (is-gapten)
Ar y fainc: Kelsey Jones, Gwenllian Jenkins, Cerys Hale, Gwen Crabb, Shona Powell-Hughes, Abbie Fleming, Jade Knight, Megan Webb