Sgoriodd y capten Chris Cooke 107 heb fod allan ar ddiwrnod cyntaf gêm Bencampwriaeth Morgannwg yn erbyn Swydd Northampton yn Northampton.

Gorffennodd yr ymwelwyr y diwrnod ar 324 am saith, gyda sawl cyfraniad o bwys gyda’r bat.

Tarodd Kiran Carlson 54, ei drydydd sgôr o fwy na 50 yn ei dri batiad diwethaf, a tharodd David Lloyd 65 yn ystod sesiwn y bore hefyd, gyda Dan Douthwaite hefyd yn sgorio 44 yn ddiweddarach.

Dechrau cadarn ar y bore cyntaf

Dechreuodd Morgannwg yn gadarn gyda’u partneriaeth agoriadol gyntaf o fwy na 50 y tymor hwn, wrth i David Lloyd a Nick Selman osod y seiliau ar ôl cael eu gwahodd i fatio.

Digon amyneddgar oedd Selman gan wynebu 57 o belenni ar gyfer ei 17 cyn i Gareth Berg ei fowlio wrth iddo fethu â chynnig ergyd.

Cyrhaeddodd Lloyd ei hanner canred, ei ail y tymor hwn ar ôl cael ei ddyrchafu’n agorwr, gyda’i nawfed ergyd i’r ffin, ond tarodd Berg goes y Gwyddel Andy Balbirnie o flaen y wiced am dri wrth gipio’i ail wiced, a honno’n wobr am lwyddo i symud y bêl yn gelfydd oddi ar y llain.

Fe fyddai Morgannwg wedi bod yn hapus i gyrraedd amser cinio â dwy wiced yn unig wedi’u colli, ond tarodd Lloyd ergyd wael i ochr y goes oddi ar belen ola’r sesiwn a chael ei ddal gan Will Thurston oddi ar fowlio Wayne Parnell – cyn-fowliwr cyflym llaw chwith Morgannwg a chwaraeodd mewn gemau ugain pelawd yn 2015 – wrth i hwnnw gipio’i wiced gyntaf i’w sir newydd.

Roedd Morgannwg, felly, yn 100 am dair erbyn yr egwyl.

Carreg filltir i Carlson

Yn fuan ar ôl cinio, daeth ergyd bellach i Forgannwg wrth i Parnell daro coes Billy Root o flaen y wiced am 13 ar ôl i’r bêl gael ei gwyro’n ôl at y wiced.

Adeiladodd Carlson a Cooke bartneriaeth gadarn wedyn am y bumed wiced, gyda Carlson yn cyrraedd ei hanner canred gyda’i nawfed ergyd i’r ffin cyn i Saif Zaib, y troellwr llaw chwith, ei fowlio gyda iorcer am 54.

Cyrhaeddodd Cooke ei hanner canred yntau wedyn oddi ar 82 o belenni, ac roedd e’n 58 heb fod allan erbyn amser te, a Morgannwg yn 226 am chwech.

Canred i’r capten

Cafodd Dan Douthwaite ei ollwng gan y troellwr Rob Keogh oddi ar ei fowlio’i hun ar ddechrau’r sesiwn olaf ac fe aeth e o 26 i 44 cyn i Gareth Berg daro’i ffon goes a’i fowlio wrth gipio’i drydedd wiced.

Roedd tynged Morgannwg yn nwylo’r capten wedyn, ac fe gyrhaeddodd ei ganred – ei ail o’r tymor a’i chweched erioed – tua diwedd y dydd gyda’i ddeunawfed ergyd i’r ffin.

Cafodd e gefnogaeth amyneddgar gan James Harris, sydd heb fod allan ar 7 yn ei gêm gyntaf ar fenthyg gyda sir ei febyd.

‘Cystadleuaeth dda rhwng bat a phêl’

“Roedd hi’n gystadleuaeth dda rhwng bat a phêl,” meddai Chris Cooke.

“Fe wnaethon nhw blygu eu cefnau a phan gawson nhw’r bêl yn y llefydd cywir, roedd digon yno [yn y llain].

“Wedi dweud hynny, roedd adegau pan aeth y bêl yn feddal a’r llain yn fflat ac fe ddaeth yn hawdd sgorio a chael momentwm.

“Efallai nad oedd y llain yn hawdd ar dechrau arni ond unwaith roeddech chi wedi dod drwyddi, fe ddaeth ychydig yn haws.”

Roedd Cooke yn llawn canmoliaeth ar gyfer David Lloyd a Kiran Carlson yn dilyn eu cyfraniadau allweddol.

“Mae Lloydy wedi cael ei ddyrchafu i fyny’r rhestr ac fe wnaeth e ein rhoi ni ar ben ffordd gyda phenderfyniad, a dyna’n union rydyn ni ei eisiau.

“Mae e’n taro’r pelenni gwael ac fe wnaeth e roi dechrau positif i ni.

“Mae Kiran yn taro peli fel pys.

“Mae e wedi gweithio’n galed dros y gaeaf ac mae e’n perfformio’n dda.

“Gobeithio y galle wneud i hynny gyfri a bod yn farus iawn gyda hynny.

“Bydd yr hanner awr gyntaf yn bwysig fory, ac efallai y byddwn ni’n gallu agor i fyny rywbryd a cheisio cyrraedd o gwmpas 350.”

Sgorfwrdd

James Harris yng ngharfan Morgannwg yn Swydd Northampton

Mae’r Cymro ar fenthyg am bythefnos gyda nifer o fowlwyr Morgannwg allan