Mae’r Cymro James Harris wedi’i gynnwys yng ngharfan Morgannwg ar gyfer y daith i Swydd Northampton yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Iau, Ebrill 22).

Mae’r chwaraewr amryddawn o Abertawe ar fenthyg am bythefnos gyda’r sir lle dechreuodd ei yrfa yn 2007.

Mae’r Iseldirwr Timm van der Gugten yn cael gorffwys ar ôl chwarae’r ddwy gêm gyntaf yn erbyn Swydd Efrog a Sussex, gyda Morgannwg yn dal i geisio’u buddugoliaeth gynta’r tymor hwn. Mae e hefyd wedi teimlo tyndra mewn cyhyr yn ei goes yn ddiweddar.

Bydd Jamie McIlroy allan am hyd at ddeufis ar ôl torri asen, ac mae Ruaidhri Smith yn dal i wella o anaf i linyn y gâr.

Daw Joe Cooke i mewn i’r garfan yn lle Tom Cullen, a hynny ar ôl i Cooke daro canred i’r ail dîm yn erbyn Swydd Gaerhirfryn yn Lerpwl ddechrau’r wythnos.

Fe fydd Kiran Carlson, y batiwr o Gaerdydd, yn gobeithio parhau â’i berfformiadau da yn dilyn canred yn y ddau fatiad yn erbyn Sussex – y Cymro cyntaf i gyflawni’r gamp honno ers Jonathan Hughes yn 2005.

Dau Gymro arall yn y garfan yw’r gogleddwr David Lloyd a Callum Taylor o Gasnewydd, dau oedd wedi sgorio hanner canred yr un yn y gêm ddiwethaf.

Mae Wayne Parnell, a chwaraeodd mewn gemau ugain pelawd i Forgannwg yn 2015, yn gobeithio chwarae yn ei gêm gyntaf i Swydd Northampton.

Gêm gofiadwy yn 2020

Yng nghanol ansicrwydd tymor criced 2020, roedd gêm Morgannwg yn Northampton yn un i’w chofio am sawl rheswm.

Cipiodd Michael Hogan ei 600fed wiced dosbarth cyntaf, a tharodd Marchant de Lange y canred dosbarth cyntaf cyflymaf erioed yn hanes Morgannwg, gyda Callum Taylor hefyd yn sgorio canred yn ei gêm gyntaf dros y sir – y pedwerydd cricedwr erioed i wneud hynny i Forgannwg.

Carfan Swydd Northampton: A Rossington (capten), G Berg, N Buck, B Curran, E Gay, R Keogh, W Parnell, L Procter, B Sanderson, C Thurston, R Vasconcelos, J White, S Zaib

Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), A Balbirnie, K Carlson, J Cooke, D Douthwaite, J Harris, M Hogan, D Lloyd, B Root, N Selman, C Taylor, R Walker, J Weighell

Sgorfwrdd