Mae Cymro wedi sgorio dau ganred mewn gêm Bencampwriaeth i Forgannwg am y tro cyntaf ers 2005.

Sgoriodd Kiran Carlson o Gaerdydd ei ail ganred yn y gêm i orfodi Sussex i fatio eto ac achub Morgannwng rhag yr embaras o golli’n drwm ar drydydd diwrnod eu gêm Bencampwriaeth yng Nghaerdydd.

Carlson yw’r Cymro cyntaf ers Jonathan Hughes yn 2005 (yn erbyn Middlesex) i daro canred yn y ddau fatiad mewn gêm Bencampwriaeth, a’r chwaraewr cyntaf i Forgannwg ers 2019, pan gyflawnodd yr Awstraliad Marnus Labuschagne y gamp mewn gêm yn erbyn Swydd Gaerwrangon.

Erbyn diwedd y dydd, roedd Morgannwg yn 258 am bump, ar y blaen o 62 yn eu hail fatiad ac yn dal i frwydro i achub yr ornest.

Manylion y dydd

Ar ôl dechrau ar ei hôl hi o 196, cipiodd Morgannwg wiced olaf batiad cyntaf Sussex, wrth i’r ymwelwyr adeiladu blaenoriaeth batiad cyntaf swmpus.

Wynebodd Sussex dair pelen yn unig ar ddechrau’r trydydd diwrnod wrth i Michael Hogan daro coes Ollie Robinson o flaen y wiced, a’r ymwelwyr i gyd allan am 481.

Roedd hynny’n golygu bod gan Forgannwg dipyn o her o’u blaenau i achub yr ornest.

Ac fe ddechreuodd ail fatiad Morgannwg yn ddigon siomedig wrth i Robinson daro coesau’r batwyr agoriadol  David Lloyd a Nick Selman o flaen y wiced, a Morgannwg yn 30 am ddwy o fewn 10.1 o belawdau.

Collon nhw eu trydedd wiced pan darodd Henry Crocombe goes Billy Root o flaen y wiced, a’r sgôr yn 46 am dair ac fe wnaeth Andy Balbirnie a Kiran Carlson eu tywys nhw i’r egwyl a chyrraedd 81 am dair.

Partneriaeth o 49 roedden nhw wedi’i hadeiladu cyn i Robinson daro coes Balbirnie o flaen y wiced, a Morgannwg yn 95 am bedair, 101 o rediadau ar ei hôl hi o hyd.

Daeth Chris Cooke i’r llain i ymuno â Carlson, ac fe ychwanegon nhw 55 y naill ochr a’r llall i’r egwyl estynedig yn ystod y prynhawn cyn i Cooke gael ei ddal gan y wicedwr Ben Brown oddi ar fowlio Robinson am 12, a’r sgôr yn 150 am bump.

Wrth i Carlson fynd o nerth i nerth, fe gyrhaeddodd ei ail ganred yn y gêm oddi ar 116 o belenni – 39 pelen yn llai na’r batiad cyntaf – gan daro 16 pedwar ar ei ffordd i’r garreg filltir.

Cafodd e gefnogaeth dda gan Callum Taylor, y chwaraewr amryddawn o Gasnewydd, wrth i hwnnw fatio’n bwyllog ben draw’r llain i sicrhau, yn erbyn y ffactorau, y bydd y gêm yn para’r pedwar diwrnod.

Sgorfwrdd

Gêm arall yn dechrau llithro o afael Morgannwg

Sussex ar y blaen o 196 yn eu batiad cyntaf ar ddiwedd yr ail ddiwrnod
Kiran Carlson

Canred i Kiran Carlson, ond Morgannwg dan bwysau yn erbyn Sussex

Yr ymwelwyr yn 99 heb golli wiced wrth ymateb i gyfanswm batiad cyntaf Morgannwg o 285