Mae Sussex mewn sefyllfa gref ar ddiwrnod cynta’r gêm Bencampwriaeth yn erbyn Morgannwg yng Nghaerdydd.

Ar ôl bowlio’r sir Gymreig allan am 285, er i Kiran Carlson sgorio 127 heb fod allan, cyrhaeddodd yr ymwelwyr 99 heb golli wiced, diolch i bartneriaeth agoriadol rhwng Aaron Thomason a Tom Haines.

Dyma bumed canred dosbarth cyntaf Carlson.

Bydd angen i fowlwyr Morgannwg wella cryn dipyn ar yr ail fore i daro’n ôl wrth i Sussex geisio cryfhau eu gafael ar yr ornest yn gynnar iawn.

Dechrau gwael i Forgannwg

Gwnaeth Sussex y penderfyniad cywir wrth ofyn i Forgannwg fatio’n gyntaf, wrth iddyn nhw fanteisio ar yr oerfel a’r amodau yn ystod sesiwn y bore.

Cwympodd tair wiced gynta’r sir Gymreig o fewn hanner awr, gyda chywirdeb bowlio’r ymwelwyr yn amlwg yn y ffaith fod Nick Selman, Andy Balbirnie a Billy Root i gyd allan â’u coesau o flaen y wiced.

Cipiodd Ollie Robinson wicedi Selman a Balbirnie cyn i Henry Crocombe waredu Billy Root, a Morgannwg erbyn hynny’n 23 am dair o fewn wyth pelawd.

Ond daeth y ddau Gymro David Lloyd a Kiran Carlson ynghyd wedyn, yn benderfynol o achub y batiad, gyda’r gogleddwr Lloyd yn cyrraedd ei hanner canred oddi ar 53 o belenni gan daro saith pedwar ar ei ffordd i’r garreg filltir.

Canred i Carlson

Roedden nhw’n 120 am dair erbyn amser cinio ond buan y collon nhw bedwaredd wiced ar ddechrau’r prynhawn, wrth i Lloyd wthio’n amddiffynnol at belen gan Crocombe a chael ei ddal gan y wicedwr Ben Brown am 84, a’u partneriaeth o 110 yn dod i ben.

Cyrhaeddodd Carlson ei hanner canred oddi ar 88 o belenni ar ôl taro chwe phedwar ar ôl cael cwmni’r capten Chris Cooke wrth y llain, ond barodd hwnnw ddim yn hir iawn cyn i Robinson daro’i goes o flaen y wiced am 13, a Morgannwg yn 169 am bump ac mewn trafferthion unwaith eto.

Ac roedden nhw’n 180 am chwech pan ergydiodd Callum Taylor yn amddiffynnol oddi ar belen dynn gan Robinson at Stiaan van Zyl yn y slip, a’r bowliwr yn cipio’i bedwaredd wiced.

Gallai Carlson fod wedi cael ei ddal gan George Garton yn y slip ar 91, a hynny oddi ar belen gyntaf Tom Clark mewn criced dosbarth cyntaf i Sussex, ond gollyngodd Garton y bêl cyn i’r batiwr fynd yn ei flaen i gyrraedd ei ganred oddi ar 155 o belenni ar ôl taro 13 pedwar. Erbyn te, roedd Morgannwg 247-6.

Daeth partneriaeth o 87 rhwng Carlson a Dan Douthwaite i ben o fewn dim o dro wedyn, pan gafodd Douthwaite ei ddal yn y cyfar gan Tom Clark oddi ar fowlio Stuart Meaker am 36.

Cwympodd tair wiced olaf Morgannwg o fewn tair pelawd, gyda Jack Carson yn cipio pob un.

Cafodd Timm van der Gugten ei ddal y wicedwr Ben Brown, gyda James Weighell â’i goes o flaen y wiced, a’r wicedwr yn cau pen y mwdwl ar y batiad wrth stympio Michael Hogan, a Morgannwg i gyd allan am 285.

Dechrau cryf gan fatwyr Sussex

Wrth ymateb i gyfanswm batiad cyntaf Morgannwg, dechreuodd batwyr agoriadol Sussex, Aaron Thomason a Tom Haines yn gryf wrth wynebu 23 pelawd ola’r dydd.

Cyrhaeddodd Thomason ei hanner canred oddi ar 64 o belenni, gan daro deg pedwar, wrth i Sussex fynd o nerth i nerth ac yn fwy ymosodol yn erbyn bowlio gwan yn niwedd y dydd gyda chyfradd sgorio o bron i bump y belawd.

Sgorfwrdd