Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi derbyn grant o £100,000 gan Gronfa Diogelu Chwaraeon Gwylwyr Llywodraeth Cymru.

Cafodd benthyciad o £11m ei gynnig i glybiau yng nghynghreiriau ‘National League‘ Lloegr gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, i dalu am gostau o fis Ionawr i fis Mawrth.

Nid oedd Wrecsam, fel clwb o Gymru, yn gymwys – er gwaethaf y ffaith ei bod chwarae yn system pyramid Lloegr.

Ond roedd cais y clwb am gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig yn llwyddiannus.

Cadarnhaodd Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth fod y clwb wedi derbyn y grant mewn llythyr at Lesley Griffiths, Aelod o’r Senedd dros Wrecsam.

“Dyfarnwyd ar y sail nad oedd y ffynonellau cyllid yr oedd Llywodraeth Cymru yn disgwyl iddynt fod ar gael i’r clwb gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cael ei wireddu felly nid oeddent wedi cael yr un cyfle â’u cystadleuwyr i gael cymorth i liniaru effaith y colledion net,” meddai’r Arglwydd Elis-Thomas.

Mae Wrecsam bellach yn nwylo’r actorion enwog, Ryan Reynolds a Rob McElhenny, sydd wedi addo talu bonws o £250,000 i’r chwaraewyr os yw’r clwb yn ennill dyrchafiad.

£250,000 ar gael i garfan Wrecsam… os ydyn nhw’n sicrhau dyrchafiad

Perchnogion enwog Wrecsam “eisiau dangos eu cefnogaeth”

Clwb Pêl-droed Wrecsam yn nwylo Ryan Reynolds a Rob McElhenney

Maen nhw wedi cymryd rheolaeth o’r clwb wrth i Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr gamu o’r neilltu