Mae Ashley Williams wedi galw sefyllfa rheolwr tîm pel-droed Cymru yn “llanast” a mynnu bod angen eglurder ar y chwaraewyr ynghylch pwy fydd yn eu harwain ym Mhencampwriaeth Ewrop yr haf hwn.

Fe fethodd rheolwr Cymru, Ryan Giggs, y ddau wersyll diwethaf – ym mis Tachwedd a mis Mawrth – ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod.

Y sefyllfa ar hyn o bryd yw bod ei fechnïaeth wedi’i hymestyn tan 1 Mai ac mai Giggs yn gwadu’r honiadau.

Mae Robert Page wedi cymryd yr awenau yn absenoldeb Giggs ac mae Cymru wedi ennill pedair o’u chwe gêm ers hynny, gydag un gêm gyfartal a’r unig golled yn dod yn erbyn Gwlad Belg, sy’n Rhif 1 yn y byd.

Mae Cymru’n dechrau eu hymgyrch Ewro 2020 yn erbyn y Swistir yn Baku ar 12 Mehefin, ac mae’r cyn-gapten, Ashley Williams, yn dweud y bydd ansicrwydd ynghylch sefyllfa’r rheolwr yn effeithio ar y chwaraewyr.

“Llanast”

“Mae sefyllfa’r rheolwr yn llanast,” meddai Williams, “Gorau po gyntaf y gellir ei sortio o safbwynt cefnogwyr pêl-droed Cymru.

“Rwy’n siŵr bod y chwaraewyr a’r cefnogwyr eisiau rhywfaint o eglurder ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd er mwyn inni allu bwrw ymlaen â’r rhan bleserus, sef y pêl-droed, a chael y cyffro hwnnw’n ôl ar gyfer y twrnament.

“Mae hyn yn tynnu sylw pawb, ond bydd yn rhaid i’r chwaraewyr ymdopi pan ddaw’r amser.

“Maen nhw’n bobol broffesiynol ac maen nhw wedi bod yn delio â phethau’n tynnu sylw drwy gydol eu gyrfaoedd. Bydd yn rhaid iddyn nhw geisio parcio hynny, ei roi o’r neilltu, a chanolbwyntio ar y gemau.

“Mae’n rhaid iddyn nhw fwynhau’r profiad oherwydd eu bod wedi gweithio’n galed i gyrraedd yno.”

Troi’r dudalen?

Dywedodd llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Kieran O’Connor, yn ddiweddar y bydd Page yn rhan o’u cynlluniau ar gyfer Euro 2020 os nad yw Giggs yn gallu cymryd yr awenau.

Mae Page yn dweud ei fod wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â Giggs dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys trafodaethau am y ddau wersyll diwethaf a welodd Gymru’n sicrhau dyrchafiad i haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd ac yn curo’r Weriniaeth Tsiec yn eu hail gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2022.

Dywedodd Williams, capten Cymru pan gyrhaeddodd bechgyn Chris Coleman rownd gynderfynol Euro 2016: “Mae Pagey wedi gwneud yn dda yn camu i mewn i amgylchiadau anodd.

“Ond mae e’n eithaf newydd i’r tîm cyntaf – d’yw e heb fod o gwmpas ers amser maith.

“Dw i’n dychmygu, heb reolwr blaenllaw yno’n gorfforol, mai Gaz (Bale), Wayne (Hennessey), Gunts (Chris Gunter) a Joe Allen, pan fydd yno ac yn heini, sy’n cadw’r safonau’n uchel ac yn arwain oherwydd bod y garfan mor ifanc.

“Bydd Gaz yn gyrru’r diwylliant hwnnw o’r tu mewn ac mae’r bechgyn ar y cae wedi creu argraff fawr arna’ i.

Ewro 2016

“O ran bod yn gapten mewn twrnament mawr roedd pwys mawr ar bawb yn cymryd cyfrifoldeb drostynt eu hunain, a’r tîm gyda’n gilydd.

“Wrth edrych yn ôl ar 2016 roedd gennym reolwr yr oeddem yn amlwg yn ymddiried ynddo ac a oedd yno drwy’r amser.

“Mae’n gyfnod anodd mynd i mewn i gystadleuaeth fel honno. Mae’r cyfryngau’n tynnu sylw a phethau’n mynd ymlaen ym mhob man.

“Roeddem yn ffodus bod Chris Coleman wedi ein hamddiffyn rhag hynny i gyd ac nid oes gan y bechgyn hyn hynny.”

Enillodd Williams 86 o gapiau dros Gymru ac ymddeol ym mis Ionawr ar ôl chwarae dros 670 o gemau dros Stockport, Abertawe, Everton, Stoke a Bristol City.

Hyfforddi’r dyfodol

Mae’r cyn-amddiffynnwr 36 oed, sy’n astudio ar gyfer ei fathodynnau hyfforddi ar hyn o bryd, wedi gweithio gyda thîm dynion dan 17 Cymru ac mae’n rhan o fenter gan McDonalds i helpu mwy o blant i chwarae pêl-droed.

“Mae’r fenter yn dda iawn,” meddai Williams am raglen McDonald’s, sy’n darparu mynediad am ddim i blant rhwng pump ac 11 oed i chwarae pêl-droed.

“Gan ddod allan o’r pandemig a’r cyfyngiadau symud mae wedi bod yn anodd i blant, heb allu chwarae pêl-droed ffurfiol, gadw’n heini.

“Mae’r ymgyrch hon yn ffordd wych o’u hannog i wneud hynny – gyda sesiynau am ddim mewn amgylchedd diogel a chyda hyfforddwyr da.”