Mae chwaraewr canol cae ymosodol Wrecsam Elliott Durrell wedi gadael y clwb.

Daw ymadawiad y gŵr 31 oed yn dilyn trafodaethau gyda’r rheolwr Dean Keates.

Roedd yn ei ail gyfnod gyda’r clwb ar ôl dychwelyd ym mis Awst 2020.

Sgoriodd ddwy gôl mewn 28 gêm y tymor hwn.

“Hoffai Clwb Pêl-droed Wrecsam ddiolch i Elliott am ei ymdrechion y tymor hwn,” meddai’r clwb mewn datganiad.