Mae disgwyl i’r bowliwr cyflym Michael Hogan chwarae yn ei ganfed gêm dosbarth cyntaf i dîm criced Morgannwg, wrth iddyn nhw groesawu Sussex i Gaerdydd ar gyfer gêm gartref gynta’r sir Gymreig yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.
Un newid sydd yng ngharfan Morgannwg, sef fod y gogleddwr Roman Walker yn dod i mewn yn lle’r bowliwr cyflym llaw chwith Jamie McIlroy, sydd wedi anafu ei ochr – gyda’r posibilrwydd o flas cyntaf Walker mewn gêm dosbarth cyntaf i’r sir.
Mae’r chwaraewr amryddawn Ruaidhri Smith (llinyn y gâr) a’r troellwr llaw chwith Prem Sisodiya (ysgwydd) allan o hyd.
Bydd y batiwr llaw chwith Billy Root a’r capten Chris Cooke yn gobeithio perfformio â’r bat unwaith eto, ar ôl iddyn nhw daro canred yr un yn y gêm gyntaf yn erbyn Swydd Efrog yn Headingley cyn i’r eira ddod i darfu ar y gêm ac amddifadu Morgannwg o fuddugoliaeth bosib.
Gallai’r chwaraewr amryddawn James Weighell ymddangos yng nghrys Morgannwg am y tro cyntaf ers iddo fe symud o Durham.
Cafodd Sussex gêm gyfartal yn erbyn Swydd Gaerhirfryn yn Old Trafford yn eu gêm agoriadol, gyda Tom Haines yn taro 155 yn y batiad cyntaf cyn i’r eira darfu ar y gêm honno hefyd.
Ond bydd yr ymwelwyr heb Phil Salt, y batiwr agoriadol sy’n enedigol o Fodelwyddan, oherwydd anaf i’w droed, tra byd Will Beer ac Ali Orr yn teithio gyda’r garfan fel eilyddion.
Can mlynedd o hwyl – ond nid yn erbyn Sussex
Aeth canrif union heibio ers i Forgannwg ennill statws dosbarth cyntaf, a daeth eu gêm gyntaf erioed yn erbyn Sussex yng Nghaerdydd yn 1921, gyda Morgannwg yn fuddugol o 23 o rediadau.
Chwaraeodd Morgannwg yn erbyn Sussex ar gae Parc yr Arfau yn y Bencampwriaeth 17 o weithiau i gyd, gan ennill pedair ohonyn nhw, cyn iddyn nhw symud i Erddi Sophia yn 1967.
Ers hynny, maen nhw wedi chwarae 14 o weithiau, gyda Morgannwg yn ennill pedair arall.
Daeth eu buddugoliaeth ddiwethaf yn 1999, wrth i’r ddau Gymro Robert Croft a Simon Jones gipio pum wiced yr un cyn i Steve James daro 153 wrth i Forgannwg gwrso 336 yn llwyddiannus i ennill y gêm o chwe wiced.
Yr ymwelwyr oedd yn fuddugol y tro diwethaf iddyn nhw gwrdd yng Nghaerdydd, yn 2016, a hynny o ddwy wiced wrth iddyn nhw gwrso 233, er i’r Iseldirwr Timm van der Gugten gipio tair wiced am 22 mewn saith pelawd, gyda Ben Brown a Danny Briggs yn adeiladu partneriaeth wythfed wiced o 55 mewn naw pelawd.
Llandrillo yn Rhos oedd lleoliad y gêm yn 2017, wrth i’r ymwelwyr gwrso 209 yn llwyddiannus i ennill o un wiced er eu bod nhw’n ddeg am ddwy ar un adeg ac wedi colli pedair wiced am bump rhediad o fewn 19 o belenni.
Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), A Balbirnie, K Carlson, T Cullen, D Douthwaite, M Hogan, D Lloyd, B Root, N Selman, C Taylor, T van der Gugten, R Walker, J Weighell
Carfan Sussex: B Brown (capten), O Robinson, J Carson, T Clark, H Crocombe, G Garton, T Haines, S Hunt, S Meaker, D Rawlins, A Thomason, S van Zyl. Eilyddion: W Beer, A Orr