Mae perchnogion newydd Clwb Pêl-droed Wrecsam, yr actorion Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney, wedi addo talu bonws o £250,000 i chwaraewyr Wrecsam os yw’r clwb yn ennill dyrchafiad o’r Gynghrair Genedlaethol y tymor hwn.

Cymerodd gwmni RR McReynolds reolaeth o’r clwb ar Chwefror 10, gan fuddsoddi £2m ar unwaith fel rhan o’r cytundeb.

Ac maen nhw wedi gweithredu’n gyflym i gyflwyno cynllun bonws chwaraewyr drwy ddod i gytundeb gyda chapten y garfan, Shaun Pearson.

Ar hyn o bryd mae Wrecsam yn seithfed yn y Gynghrair Genedlaethol ac yn meddiannu’r safle gemau ail-gyfle olaf.

“Roedd Rob a Ryan eisiau cydnabod hyder y chwaraewyr y gallan nhw gyrraedd y gemau ail-gyfle’r tymor hwn a rhoi cymhelliant ariannol ychwanegol i gyflawni hyn,” meddai’r cyfarwyddwr gweithredol, Humphrey Ker, wrth wefan swyddogol y clwb.

“Gyda’r ffenestr drosglwyddo ar gau, mae angen i ni i gyd gefnogi’r grŵp hwn o chwaraewyr ac roedd Rob a Ryan eisiau dangos eu cefnogaeth.”

Datgelodd y bydd chwaraewyr yn derbyn £200 am bob buddugoliaeth a £50 am gêm gyfartal, gyn belled â bod Wrecsam yn aros yn y safleoedd gemau ail-gyfle, tra byddai pot bonws o £250,000 yn wobr am ddyrchafiad i League Two yng Nghynghrair Bêl-droed Lloegr.

“Amseroedd cyffrous”

Dywedodd capten y clwb, Shaun Pearson: “Rydym yn ddiolchgar am y cymhelliant sy’n cael ei roi i ni gan Rob a Ryan.

“Rydyn ni’n credu fel grŵp fod gennym gyfle i sicrhau lle yn y gemau ail-gyfle, ac rydyn yn gobeithio cyflawni’r hyn y mae pawb sy’n ymwneud â’r clwb eisiau ei weld – sef ni’n dychwelyd i’r Gynghrair Bêl-droed.

“Mae Ryan a Rob yn cymryd drosodd wedi dod ag amseroedd cyffrous i’r clwb, y dref a’r gymuned ac rydym am ddod â mwy o gyffro drwy ein llwyddiant ar y cae hefyd.”