Mae Abertawe yn aros am ganlyniad ail brawf covid Be Cabango, cyn penderfynu a fydd yr amddiffynnwr rhyngwladol yn cael ei gynnwys yn y garfan ar gyfer y gêm gartref ddydd Sadwrn yn erbyn Wycombe.

Fe gafodd Cabango ei hepgor o’r tîm ar gyfer y fuddugoliaeth yn Sheffield Wednesday nos Fawrth, wedi iddo dorri rheolau covid, ac ni fydd yn cael dychwelyd oni bai ei fod yn cael canlyniad ‘negyddol’ mewn dau brawf.

Fe allai Liam Cullen ddychwelyd i’r garfan cyn diwedd y tymor wedi iddo wella yn gynt na’r disgwyl o anaf i’w ffêr.

Mae Steve Cooper wedi crybwyll y gallai ymosodwr tîm dan 21 Cymru chwarae am gyfnodau penodol o funudau, ac fe allai gael ei gynnwys yng ngharfan y tîm cyntaf yn syth er mwyn gwneud hynny.

O ran Wycombe, mi fyddan nhw yn teithio i’r Liberty gan orfod gwneud heb eu hamddiffynnwr canol Josh Knight, a gafodd ei hel o’r cae yn y golled 3-1 yn erbyn Luton yr wythnos ddiwethaf.

Mae Abertawe yn drydydd yn nhabl y Bencampwriaeth ar ôl ennill eu dwy gêm ddiwethaf.