Mae amddiffynnwr Cymru, Ben Cabango, wedi cael ei anfon adref o garfan Abertawe ar ôl torri protocolau Covid-19.
Bydd yr amddiffynwr canol 20 oed nawr yn methu’r gêm ym Mhencampwriaeth Sky Bet ddydd Mawrth yn erbyn Sheffield Wednesday, gydag Abertawe yn dweud eu bod yn “siomedig” bod protocolau wedi eu torri.
Dywedodd datganiad gan Abertawe: “Mae’r clwb yn ymwybodol o ddigwyddiad yn ymwneud â chwaraewr tîm cyntaf a ddigwyddodd dros y penwythnos.
“Mae’r chwaraewr dan sylw wedi cael ei anfon adref o’r swigen hyfforddi ac o ganlyniad ni fydd yn ymddangos yn y gêm ddydd Mawrth yn erbyn Sheffield Wednesday.
“Rydym yn gweithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae gennym set gaeth o brotocolau Covid-19 yn y clwb ac rydym wedi gwneud y rhain yn gwbl glir i’r holl chwaraewyr a staff.
“Mae’n siomedig bod y protocolau hyn wedi’u torri, ac fel clwb rydym yn disgwyl i’r holl bersonél gadw at ganllawiau o’r fath mewn modd sy’n arwydd o’r aberth enfawr a wnaed gan gynifer.
“Bydd y clwb nawr yn cwblhau’r mater yn fewnol.”
Enillodd Cabango ei gap cyntaf ar Gymru fis Medi diwethaf a’r mis diwethaf llofnododd gontract newydd gydag Abertawe tan haf 2025.
Nid yw Abertawe wedi cadarnhau eto a fydd Cabango yn cael ailymuno â’r garfan cyn y gêm gartref ddydd Sadwrn yn erbyn Wycombe Wanderers.
Mae tim Steve Cooper yn bedwerydd ym Mhencampwriaeth Sky Bet ar ôl buddugoliaeth 3-0 ddydd Sadwrn yn Millwall, buddugoliaeth a ddaeth â rhediad o bedair colled yn olynol i ben.