Mae Sophie Ingle yn gobeithio y bydd meddylfryd lwyddiannus Chelsea yn dylanwadu ar dîm merched Cymru cyn eu gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd.

Collodd Cymru 3-0 yn erbyn Canada yng ngêm gyntaf y rheolwr newydd, Gemma Grainger, wrth y llyw ddydd Gwener ac maent yn wynebu tîm arall o’r 15 uchaf yn y byd yn eu gêm nesaf – sef Denmarc yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Mawrth.

Mae Ingle wedi bod yn rhan o ymgais Chelsea i ennill y trebl y tymor hwn, ac mae capten Cymru yn credu y gellir copïo agwedd y clwb o Lundain ar y lefel ryngwladol wrth i Gymry Grainger adeiladu tuag at ddechrau’r ymgyrch ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2023 ym mis Medi.

Safonau

“Does dim dyddiau i ffwrdd yn Chelsea,” meddai Ingle. “Allwch chi fyth adael i’ch safonau syrthio – ddim ar y cae nac oddi ar y cae.

“Mae’n rhaid i chi fyw hynny – ac rydyn ni’n ceisio meithrin hynny yma.

“Mae’n wahanol yma achos rydyn ni i gyd yn dod o wahanol glybiau ac amgylcheddau, ond rydyn ni’n ceisio gwneud hynny i wneud yn siŵr ein bod ni’n barod ar gyfer y gemau mawr.

“Mae gennym ddyfnder yn ein carfan nawr, sy’n gyffrous. Mae gennym 26 o chwaraewyr ar y gwersyll hwn ac ni fyddem wedi cael y niferoedd hynny o’r blaen.

“Mae’r golled y noson o’r blaen yn swnio’n waeth nag oedd hi go iawn oherwydd bod llawer o bethau cadarnhaol i’w cymryd o’r gêm.

“Y nod yn y gemau hyn yw rhoi cynnig ar siap newydd a phersonél newydd. Defnyddio ein cryfderau ac adeiladu at fis Medi.”

Tri tlws?

Cafodd Ingle wythnos anodd cyn y gem gyfeillgar yn erbyn Canada yn dilyn marwolaeth ei mam-gu.

Ond nid oes gan yr amddiffynwr 29 oed fawr ddim amser i feddwl ar ôl gêm Denmarc, gyda Chelsea yn brwydro am dri thlws.

Mae Chelsea yn chwarae’r London City Lionesses ym mhedwaredd rownd Cwpan yr FA ddydd Gwener, cyn teithio i Manchester City ar gyfer gem allai benderfynu Uwchgynghrair Menywod Lloegr ar 21 Ebrill.

Yna, daw rownd gynderfynol Cynghrair y Pencampwyr yn erbyn Bayern Munich, gyda Chelsea yn mynd allan i Bafaria yn y cymal yntaf.

Dywedodd Ingle: “Mae’n amgylchedd llawn pwysau – ond rydyn ni eisiau bod yn y sefyllfa hon.

“Mae wedi bod yn anodd gan ein bod wedi cael llawer o gemau ac mae ein hamserlen yn wallgo’.

“Yn gorfforol ac yn feddyliol, mae wedi bod yn flinedig ond rydyn ni’n gwthio bob dydd i fod yn well ac ry’n ni eisiau ennill popeth allwn ni.

“Mae’n dasg anodd, ond mae cyflawni hynny o fewn gallu’r tîm eleni.”

Gemma Grainger yw rheolwr Rheolwr newydd Tîm Cenedlaethol Merched Cymru

“Rwyf wedi paratoi trwy gydol fy ngyrfa i lywio tîm cenedlaethol i brif bencampwriaeth ryngwladol”