Roedd siom i dîm pêl-droed merched Cymru yng ngêm gynta’r rheolwr newydd Gemma Grainger, wrth iddyn nhw golli o 3-0 yn erbyn Canada yn stadiwm Lecwydd yng Nghaerdydd neithiwr (nos Wener, Ebrill 9).
Mae Canada’n wythfed ar restr detholion y byd.
Enilodd Ceri Holland ei chap cyntaf, tra bod Lily Woodham wedi dychwelyd i’r garfan ar ôl sgorio’i gôl ryngwladol gyntaf yn erbyn Ynysoedd Faroe fis Hydref y llynedd.
Canada gafodd y gorau o’r meddiant ar ddechrau’r gêm gyda chyfres o giciau cornel a gwrthymosodiadau yn rhoi pwysau ar Gymru.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf wrth i Deanne Rose ddarganfod bwlch ac ergydio i’r gôl.
Daeth Kayleigh Green yn agos at unioni’r sgôr o fewn dim o dro, cyn i Christine Sinclair, capten Canada a phrif sgoriwr gemau rhyngwladol y merched, orfod gadael y cae ag anaf ar ôl hanner awr.
Daeth cyfle hwyr i Gymru cyn yr egwyl wrth i Jess Fishlock groesi i’r cwrt cosbi i brofi amddiffyn Canada.
Ail hanner
Cafodd Cymru gyfle cynnar yn yr ail hanner oddi ar gic rydd Rachel Rowe, cyn i Ganada ddyblu eu mantais wrth i’r eilydd Evelyne Viens rwydo o’r cwrt cosbi.
Gallai Cymru fod wedi cael cic o’r smotyn bron yn syth yn dilyn tacl flêr ar Natasha Harding, ond sgorio eto fyth wnaeth Canada wrth i Jessie Fleming rwydo ar ôl 62 munud.
Wrth i Gymru chwilio am gôl i geisio taro’n ôl, parhau i bwyso wnaeth yr ymwelwyr ond safodd yr amddiffyn yn gadarn i atal rhagor o goliau yn y pen draw.
Er gwaetha’r golled, roedd rhai arwyddion positif wrth i Gymru baratoi i herio Denmarc nos Fawrth (Ebrill 13).