Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud y bydd y tîm yn parhau i frwydro am ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr, er eu bod nhw wedi colli pedair gêm yn olynol yn y Bencampwriaeth.

Maen nhw’n teithio i’r Den i herio Millwall am 12.30yp heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 10), ac fe allai buddugoliaeth eu codi nhw uwchben Brentford, sydd un pwynt yn unig uwch eu pennau ar hyn o bryd.

Ond maen nhw 13 pwynt islaw’r safleoedd dyrchafiad awtomatig erbyn hyn, gyda dim ond saith gêm yn weddill.

Dim ond pedwar pwynt sy’n eu gwahanu nhw a Bournemouth, sy’n seithfed a’r tu allan i’r safleoedd ail gyfle ar hyn o bryd.

Er nad yw’r rhediad gwael wedi dod ar adeg gyfleus i’r Elyrch, mae Steve Cooper yn mynnu y bydd ei dîm yn taro’n ôl yn erbyn Millwall.

“Does yna fyth amser da i beidio ag ennill pwyntiau a pheidio â sgorio goliau,” meddai.

“Fel dw i wedi’i ddweud o’r blaen, dydy llwyddiant ddim yn hawdd.

“Mae’n ffordd droellog tuag at gyflawni amcanion.

“Rydyn ni’n siarad yn agored am hynny â’r criw.

“Naill ai rydych chi’n brwydro ac yn gweithio’n galetach fyth neu’n ei dderbyn ac yn ildio. Nid yr ail un [fydd yr Elyrch yn ei wneud].

“Rydyn ni’n cydnabod fod rhaid i chi wneud pethau’n well.

“Dw i wedi bod wrth fy modd ag agwedd y chwaraewyr yr wythnos hon.”

Yr ymweliad diwethaf

Y tro diwethaf i’r Elyrch deithio i ffau’r Llewod fis Mehefin y llynedd, gorffennodd y gêm yn gyfartal 1-1 wrth i Rhian Brewster daro chwip o gic rydd ar ôl 65 munud.

Roedd e ar fenthyg o Lerpwl y tymor diwethaf, ac roedd y gôl hon yn un o uchafbwyntiau ei gyfnod gyda’r clwb, er i’r gôl gael ei chofnodi fel gôl i’w rwyd ei hun gan y golwr Bartosz Bialkowski oedd wedi methu â chasglu’r bêl yn daclus ar ôl iddi daro’r trawst.

Roedd Millwall wedi bod ar y blaen drwy gôl Mason Bennett yn yr hanner cyntaf.

Ond mae’r gêm hefyd yn cael ei chofio am yr anaf a ddaeth â thymor yr amddiffynnwr canol Ben Wilmot i ben, ac yntau ar fenthyg o Watford.

Daw’r gêm heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 10), ddeuddydd ar ôl i Glwb Pêl-droed Abertawe gyhoeddi na fyddai eu holl staff yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol am wythnos gyfan ar ôl i nifer o’u chwaraewyr gael eu sarhau’n hiliol yn ddiweddar.